Y Dirwasgiad a’r Gymru Wledig
credit Jonathan Billinger
18 Gorffennaf 2012
Fe fydd Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru Prifysgol Aberystwyth yn cynnal trafodaeth bwrdd crwn ar Faes Sioe Frenhinol Cymru dan y teitl ‘Y Dirwasgiad a’r Gymru Wledig’ am 2.30yp ar ddydd Mawrth 24 Gorffennaf.
Ar y panel fydd Alun Davies AC, Dirprwy Weinidog dros Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd Llywodraeth Cymru; Emyr Jones, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru; Janet Jones, Cadeirydd y Ffederasiwn o Fusnesau Bach (FSB); a’r Athro Mike Woods o Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.
Bydd y pedwar yn rhannu’u profiadau am y sefyllfa anodd iawn sy’n wynebu'r Gymru wledig yng nghanol blynyddoedd o ddirwasgiad, ac yn ystyried y ffyrdd gorau o symud ymlaen. Cadeirydd y cyfarfod fydd Dr Huw Lewis o Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru.
Yn ôl Dr Anwen Elias, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, “Dyma’r tro cyntaf i ni fel Sefydliad drefnu digwyddiad ar faes y Sioe. Ond teimlwn ei bod yn hollbwysig ein bod, fel canolfan ymchwil sy’n ymdrin â Gwleidyddiaeth Cymru, yn cynnig cyfle i drafod yr amodau economaidd sy’n effeithio ar gymaint o Gymry ar hyn o bryd.
“Mae'r Sioe yn cynnig cyfle perffaith i ystyried effaith y dirwasgiad ar gymunedau a busnesau cefn gwlad Cymru. Mae gan bob un o aelodau’r panel brofiad o astudio neu weithio yn y maes yma a gobeithio bydd y drafodaeth yn ffordd o rannu syniadau ar sut y gellir cynnal a chefnogi'r Gymru Wledig mewn hinsawdd economaidd anodd.”
Trefnir y digwyddiad am 2.30 brynhawn dydd Mawrth 24 Gorffennaf yn adeilad Prifysgol Aberystwyth ar faes y Sioe. Croeso i bawb ymuno yn y drafodaeth a darperir lluniaeth ysgafn i’w chanlyn.
AU24812