Tagio’r Gwalch

Gosod y tag ar y cyw gwalch.

Gosod y tag ar y cyw gwalch.

17 Gorffennaf 2012

Cafodd y gwaith manwl o osod modrwy a dyfais dilyn GPS sy’n defnyddio pŵer yr haul ar gyw'r gwalch yn aber yr Afon Dyfi ei gwblhau’n llwyddiannus ar ddydd Gwener 13eg Gorffennaf.

Noddwyd y teclyn GPS, fydd yn galluogi ymchwilwyr i astudio mudo blynyddol yr adar rhwng Cymru a Gorllewin Affrica, gan IBERS.

Dywedodd Vicky King, Cydlynydd Prosiectau Ymchwil llawn-amser yn IBERS, a gwirfoddolwr rheolaidd gyda Phrosiect  Gweilch Dyfi:

"Mae'r cyw gwalch yn iach iawn ac yn pwyso 1415 gram a disgwylir iddo fagu plu mewn tua 10 diwrnod. Byddwn yn dilyn y mudo yn frwdfrydig - mae'n debyg y bydd yn dechrau ei daith i Affrica yn gynnar ym mis Medi."

Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS, y nawdd ar gyfer y prosiect fel rhan o waith y Sefydliad gyda Phrosiect Gweilch Dyfi Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Maldwyn i ail-sefydlu poblogaeth gweilch ar aber yr Afon Dyfi.

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd yr Athro Powell "Rydym yn falch iawn o gefnogi Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn a chynorthwyo gyda'u prosiect cadwraeth cyffrous. Bydd y bartneriaeth hon yn darparu IBERS a'i myfyrwyr gyda chyfleoedd ymchwil nawr ac yn y dyfodol, ac mae Prifysgol Aberystwyth yn croesawu'r cyfle i wneud cyfraniad cadarnhaol at warchod yr amgylchedd.

"Bydd gwyddonwyr yn dechrau trwy gynnal astudiaethau mudo a dietegol; ac mae astudiaethau DNA a dadansoddi genetig yn ardal ymchwil arall wrthi'n cael ei ddatblygu. Yn y dyfodol, bydd potensial i ddefnyddio Gwarchodfa Natur Cors Dyfi fel lle dysgu awyr agored ac adnodd addysgu ar gyfer myfyrwyr prifysgol."

Esboniodd Vicky King, Cydlynydd Prosiect Ymchwil llawn-amser yn IBERS, a gwirfoddolwraig rheolaidd gyda Phrosiect Gweilch y Ddyfi " Mae gan y ddyfais dilyn GPS fywyd gweithredol o tua phum mlynedd a bydd yn trosglwyddo lleoliad rheolaidd a data patrwm hedfan, ac yn ein galluogi i ddilyn yr aderyn wrth iddo ymfudo fwy nag unwaith.

"Bydd dysgu mwy am ymddygiad, llwybrau mudo, lleoliadau aros a chynefinoedd gaeafu gwalch yn galluogi i gadwraethwyr eu hamddiffyn yn well. Bydd y ddyfais dilyn GPS hefyd yn ein helpu i ddeall dychweliad mudo cyntaf o adar anaeddfed a sut y maent yn dychwelyd yn ôl i'r DG a dewis safleoedd nythu. Mae hwn yn brosiect ymchwil tymor hir cyffrous iawn a fydd yn cyfrannu tuag at ymdrechion cadwraeth yn y dyfodol.”

Dywedodd Rheolwr Prosiect Gweilch y Ddyfi, Emyr Evans, “Mae gweithio mewn partneriaeth â'n prifysgol leol yn caniatáu i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn ddatblygu a gwella ein dysgu a’n dealltwriaeth o'r adar ysglyfaethus godidog oedd, tan yn ddiweddar, wedi diflannu yng Nghymru.

"Trwy gymhwyso arbenigedd Prifysgol Aberystwyth wrth brosesu'r data gwyddonol a fydd ar gael o ganlyniad i'n partneriaeth, rydym yn gobeithio ennill gwybodaeth werthfawr ac ar flaen y gad am ecoleg a mudo’r gweilch a fydd yn y pen draw yn cynorthwyo yn eu cadwraeth ac adfer yng Nghymru a thu hwnt."

Mae dau o fyfyriwr IBERS eisoes wedi dechrau eu prosiectau ymchwil; un yn edrych ar lwybrau mudo gweilch ifanc; a’r ail yn ymchwilio sut mae amodau amgylcheddol yn dylanwadu ar ddewis ysglyfaeth gweilch.

Nid dyma'r tro cyntaf i IBERS weithio gyda'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt. Yn gynharach eleni fe wnaeth myfyrwyr o'r adran helpu i osod bron i un cilomedr o gebl ffibr-optig wedi’i orchuddio, o'r ganolfan ymwelwyr i nyth y gweilch, sydd wedi galluogi ffrydio-fideo byw o fanylder uchel, sain a data gwyddonol gael eu casglu am y tro cyntaf.

Hanes y Gweilch yn y DG
Roedd y Gweilch unwaith yn gyffredin ledled Cymru ac yn rhan fwyaf o Brydain ond fe’u helwyd i ddifodiant yn y DG 100 mlynedd yn ôl. Yn y 1950au canol, fe wnaethant ddechrau ail-gytrefu yn ardaloedd anghysbell yr Alban. Yn dilyn prosiect trawsleoli llwyddiannus gan Swydd Gaerlŷr ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Rutland, gan ddechrau yn 1996 fe ddechreuodd y boblogaeth yn Lloegr hefyd i dyfu. Roedd hyn o bwys mawr i boblogaeth gweilch yng Nghymru. Yn 2011 cyrhaeddodd un gwalch benywaidd o Rutland ar aber Afon Dyfi a pharu gyda phreswylydd gwrywaidd, gan arwain at dri chyw yn cael eu geni ar yr aber am y tro cyntaf ers dros 400 mlynedd.

Hanes y Gweilch yng Nghymru ac ar aber Afon Dyfi
• Mae’r gweilch wedi mudo dros aber Afon Dyfi ers nifer o flynyddoedd
• 2007, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Maldwyn yn codi llwyfan nythu artiffisial yng Ngwarchodfa Natur Cors Dyfi
• Y llwyfan nythu wedi ei ddefnyddio bob blwyddyn ers ei godi, ond dim bridio tan 2011
• 2011, gwryw yn ymgartrefu ar nyth Dyfi, ac yn paru gyda benyw o Rutland; roedd ei rhieni yn rhan o'r prosiect trawsleoli
• 2011, gweilch yn bridio ar aber Afon Dyfi am y tro cyntaf ers dros 400 mlynedd
• 2011, tri chyw wedi eu magu yn llwyddiannus ac wedi ymfudo i diroedd gaeafu Affricanaidd
• 2012, yr un oedolyn yn dychwelyd i'r Ddyfi, tri wy wedi’u dodwy, pob un wedi deor, dau gyw yn marw oherwydd amodau tywydd eithafol.

AU20612