Yr hynaf i raddio

Roger Roberts.

Roger Roberts.

10 Gorffennaf 2012

Roger Roberts, sy’n 82 mlwydd oed, fydd y person hynaf i raddio eleni o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd Baglor mewn Astudiaethau Economaidd a Chymdeithasol mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Graddiodd Roger, sy’n byw yn Aberystwyth, heddiw (Ddydd Mawrth 10 o Orffennaf) ar ôl iddo astudio ar gyfer ei radd dros gyfnod o bedair blynedd. Bu’n astudio am flwyddyn yn hwy na’r arfer gan iddo ddioddef o salwch yn ystod blynyddoedd olaf ei astudiaeth.

Esboniodd, “Dwi’n dioddef o asthma cronig a chan hynny fe gymerodd hi fwy o amser na’r disgwyl imi gwblhau fy ngradd, ond dwi ar ben fy nigon fy mod i wedi graddio o’r diwedd! Edrychaf ymlaen at y seremoni a dwi wedi mwynhau f’amser yma yn fawr iawn.”

Nid yw Roger, a fu’n gweithio trwy gydol ei yrfa yn y gwasanaeth iechyd, yn ddieithryn i’r Brifysgol. Dyma ei ail radd – graddiodd yn 2005 gyda gradd BA gydag Anrhydedd mewn Astudiaethau Americanaidd.

Ychwanega, “Ymddeolais yn 1993 ond gweithiais yn rhan amser am rai blynyddoedd cyn ymddeol yn gyfan gwbl yn 2001. Dyna phryd ges i’r syniad o astudio yn y Brifysgol. Meddyliais - mae’r sefydliad gwych hwn ar riniog fy nrws a dylwn i fod yn astudio rhywbeth yn hytrach na gwastraffu f’amser adref.

“Ond, fydd dim mwy o astudio nawr! Dwi’n mynd i eistedd yn ôl, ymlacio, a mwynhau f’ymddeoliad!”

Dywedodd yr Athro Michael Foley, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, “Ganed Roger yn 1929 sy’n golygu ei fod yn ddim ond 10 mlynedd yn iau na’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ei hun.

“Er iddo ddioddef oherwydd salwch dros y ddwy flynedd ddiwethaf, parhaodd i gynhyrchu gwaith academaidd o safon ardderchog. Mae ei raddio eleni yn gryn gyrhaeddiad sydd wedi ennill parch ac edmygedd iddo ymysg pawb o fewn yr Adran. Dengys hefyd na ddylai oedran gwtogi ar uchelgais bersonol ac nad yw hi fyth yn rhy hwyr i dorri cwys newydd mewn bywyd.”

AU23912