Cyngor ar Ynni

06 Gorffennaf 2012

Mae ymchwilwyr lleol yn cynnig cymorth i siopau sy’n cael trafferth yn y dirwasgiad a chyda phris cynyddol ynni.

Gwahoddir busnesau lleol i gymryd rhan yn un o’r gweithdai rhad ac am ddim a drefnir ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a Biosffer Dyfi, ac a gynhelir yn Aberystwyth ar ddydd Mercher 11 Gorffennaf a Machynlleth ar ddydd Iau 12 Gorffennaf.

Mae’r gyfres gweithdai wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer busnesau bychain a chanolig o ran maint, a’u bwriad yw eu cynorthwyo i sylweddoli fod newid hinsawdd yn cyflwyno cyfle gwirioneddol i adeiladu a chynnal eu busnesau. Yn bennaf oll, bydd y prosiect yn archwilio ffyrdd y gall busnesau dorri’n rhydd oddi wrth gyfyngiadau presennol y dirwasgiad economaidd.

Mae llawer o fusnesau’n dechrau sylweddoli beth yw’r buddiannau o fedru addasu i hinsawdd newydd. Fodd bynnag, dywed Dr Nicola Thomas o Brifysgol Aberystwyth fod croeso arbennig i berchnogion busnes sy’n fwy sceptigol: “Ein hamcan yw gwyrdroi pob ‘ond’ yn gyfle masnachol.” Ymhelaethodd Nicola, “byddwn yn ymwroli i ymgymryd ag ymchwil newid hinsawdd yn benodol ar gyfer anghenion pob busnes sy’n mynychu gweithdy, yn rhad ac am ddim.”

Mae Hinsawdd Busnes yn brosiect ‘ddim am elw’ sy’n gweithredu ar draws y DG, ac sydd, tan arweiniad Prifysgol Aberystwyth yn gweithio mewn cydweithrediad â Biosffer Dyfi er mwyn rhedeg y rhaglen yn yr ardal leol. Maent yn adeiladu platfform ar-lein i helpu amddiffyn busnesau rhag yr hinsawdd tra’n eu cynorthwyo i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â’r masnachwyr mawrion. Bydd y gweithdai hefyd yn darganfod ac yn cryfhau’r hyn sy’n gwahaniaethu’r siopau lleol o’u cymharu â’u cystadleuwyr, megis masnachwyr ar-lein a rhanbarthau eraill.

Cynhelir y gweithdai rhad ac am ddim yn Aberystwyth ar ddydd Mercher yr 11eg o Orffennaf yn Y Cambria, Rhodfa’r Môr, SY23 2AZ, gyda thri dewis: sesiwn frechdanau cinio (12:30 - 14:30), sesiwn te a chacen yn y prynhawn (15:00 - 17:00) neu sesiwn noswaith ddiodydd a byrbrydau (18:00 - 20:00). Cynhelir gweithdai Machynlleth ym Mhlas Machynlleth (SY20 8ER) ar ddydd Iau'r 12fed o Orffennaf, gyda dewis o sesiwn te a chacen yn y prynhawn (15:00 - 17:00) neu sesiwn noswaith ddiodydd a byrbrydau (18:00 - 20:00).

Dywedodd Robin Farrar o Fiosffer Dyfi, cyd-drefnwyr y gweithdai, “Bydd y sesiynau yn hwyl ac yn gyffrous, ac yn cynnig cyfle i rwydweithio gyda masnachwyr eraill, ac, yn ogystal, i archwilio’r dulliau newydd a chreadigol i dynnu maeth o hinsawdd gyfnewidiol.” Bydd cyfle hefyd i gael rhagflas o sut olwg fydd ar y platfform Hinsawdd Busnes, a gall masnachwyr awgrymu unrhyw newidiadau er mwyn ei addasu i’w dibenion eu hunain.

Mae bwcio yn hanfodol, gall busnesau sydd â diddordeb archebu lle trwy glicio ar: www.businessclimate.co.uk/dyfi-mid-wales. Neu, medrant decstio neu ffonio Dr Nicola Thomas ar 07727 940 517 neu alw Robin Farrar ym Mhartneriaeth Biosffer Dyfi ar 01654 703965.

Cyllidir y Prosiect Hinsawdd Fusnes gan y rhaglen Rhyngweithiad Busnes a Chymuned gan y JISC, ac y mae’n rhan o’r portffolio Mynediad at Adnoddau a Datblygiad Agored (Rhan 2). Am fwy o wybodaeth ar yr Hinsawdd Fusnes, cliciwch ar www.businessclimate.co.uk

Beth yw’r Cronfeydd Biosffer UNESCO?

Mae 580 Cronfa Biosffer UNESCO yn y byd, ond y Ddyfi yw’r unig un yng Nghymru. Hi yw’r unig un yn y byd a chanddi enw cwbl ddwyieithog: Biosffer Dyfi Biosphere.

Mae Cronfa Biosffer yn ardal lle mae pobl yn gweithio i gydbwyso cadwraeth bioamrywiaeth gyda’i ddefnydd cynaliadwy. Enwebir hwynt gan lywodraethau taleithiau sy’n aelodau, a rhaid iddynt gyflawni tair prif amcan:

•        Amcan cadwraeth - i gynnal adnoddau genetig, rhywogaethau, ecosystemau a thirweddau

•        Amcan datblygiad - i feithrin datblygiad economaidd a dynol cynaliadwy

•        Amcan logisteg - i gefnogi ymchwil, monitro, addysg, a chyfnewid gwybodaeth sy’n berthnasol at faterion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol o gadwraeth a datblygiad

Am wybodaeth gefndirol am Fiosffer Dyfi Biosphere cliciwch ar: www.dyfibiosphere.org.uk

AU21512