Hitler, Stalin a Mr Jones
Gareth Jones
04 Gorffennaf 2012
Mae'r cyn fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth yn destun rhaglen ddogfen ddiddorol gafodd ei darlledu am y tro cyntaf ar nos Iau 5ed Gorffennaf ar BBC4.
Mae’r rhaglen,Hitler, Stalin and Mr Jones, a gynhyrchwyd gan Tinopolis, yn cael ei dangos fel rhan o’r gyfres arobryn, Storyville, ac i'w gweld yma http://www.bbc.co.uk/programmes/b01kg4tx.
Ganed Gareth Jones yn y Barri a graddiodd o Aberystwyth yn 1926 gyda dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg cyn astudio Rwsieg yng Nghaergrawnt. Bu’n teithio'n helaeth drwy Rwsia a'r Wcráin yn ystod y 1930au cynnar.
Ar ôl cyfnod o weithio fel ysgrifennydd i Lloyd George, teithiodd i'r Almaen wrth i Hitler esgyn i rym cyn treulio sawl cyfnod yn Rwsia.
Gan ei fod yn rhugl mewn Rwsieg, teithiodd i fannau anghysbell y wlad gan weld drosto'i hun yr alltudio torfol a newyn gorfodol a gorthrymodd miliynau yn yr Wcráin a Rwsia.
Wedi iddo ddychwelyd ef oedd y cyntaf i ysgrifennu am yr amodau erchyll a bu'n dyst iddynt yn yr Wcráin, a ddatgelodd y gwirionedd am sefyllfa’r wlad o dan Stalin a'r system Sofietaidd. Roedd hyn yn ddadleuol iawn ar adeg pan roedd llawer o'r frawdoliaeth newyddiadurol yn cydymdeimlo gyda’r unben a'r system gomiwnyddol.
Adroddwyd yr hanesion yn helaeth yn y Times, Evening Post Efrog Newydd a'r Manchester Guardian, ac o ganlyniad fe’i gwaharddwyd gan Stalin rhag ymweld â Rwsia.
Parhaodd gyda'i waith newyddiadurol, gan deithio i America i adrodd ar y Dirwasgiad Mawr cyn symud ymlaen at y dwyrain pell yn 1934. Ymwelodd â Siapian a’r rhannau o Tsieina a meddiannwyd gan y Siapaneaid, cyn teithio i Fongolia, lle cafodd ei ddal gan ysbeilwyr a saethu mewn amgylchiadau dirgel yn 30 oed.
Un o’r cyfranwyr i’r rhaglen yw’r hanesydd, yr Athro Aled Gruffydd Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Hŷn Prifysgol Aberystwyth. Bu’n cynghori ar hanes gwleidyddiaeth myfyrwyr Gymreig yn y 1920 a’r Blaid Ryddfrydol a Lloyd George.
Ar 2 Mai 2006, dadorchuddiwyd cofeb iddo yn yr Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth gan Lysgennad yr Wcráin i'r DU, a ddisgrifiodd ef fel "arwr di-glod yr Wcráin".
Anrhydeddwyd ef hefyd ar ôl ei farwolaeth â Gorchymyn Teilyngdod Wcreineg mewn seremoni yn Neuadd Ganolog San Steffan yn 2008 , gan Lysgennad Wcráin i'r DU, fel gwobr am ei wasanaethau eithriadol i'r wlad a'i phobl.
AU22712