Gwirfoddolwyr cartŵn
Rhan o gartŵn Dorrien "What's the latest on the drought situation then?".
21 Mehefin 2012
Fe fydd gwaith cartwnydd adnabyddus y Western Mail a'r South Wales Echo, Dorrien, yn agored i’r cyhoedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, diolch i gymorth myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth.
Fel rhan o gynllun gwirfoddoli newydd sy’n cael ei redeg gan y Llyfrgell Genedlaethol, bydd y myfyrwyr yn cynorthwyo wrth ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd a mynediad i ddata pwysig na fyddai ar gael pe na bai am y gwaith a wneir gan wirfoddolwyr.
Bydd y prosiect cyntaf hwn yn gweld myfyrwyr o Adran Hanes a Hanes Cymru yn darparu cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol i gartwnau gan y cartwnydd poblogaidd Dorrien, a fu farw yn 1998.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ffordd i’r cyhoedd i gael mynediad i'r casgliad. Fe fydd y gwaith a wnaed gan y myfyrwyr yn arwain y Llyfrgell gam yn nes at rannu cyfoeth o waith Dorrien gyda'r byd.
Rhennir casgliad Dorrien yn ddau. Y casgliad cyntaf yw cartwnau gwleidyddol, sef fersiwn gwreiddiol o gartwnau a gyhoeddwyd mewn papurau newydd fel y Western Mail neu’r South Wales Echo. Yr ail, yw portreadau gwreiddiol o gricedwyr, golffwyr a bocswyr. Rhwng y ddau gategori y mae yna ychydig dros 700 o eitemau.
Mae'r myfyrwyr yn ymgymryd â'r gwaith hwn fel rhan o ‘Ein Helpu i Gyflawni’ - cynllun o dan gyfarwyddyd Gwyneth Davies, sydd newydd ei phenodi yn Gydlynydd Gwirfoddoli’r Llyfrgell Genedlaethol, gyda chymorth Cronfa Fawr y Loteri.
Y myfyrwyr sy’n cymryd rhan yw Victoria Moore, Alice Jane Heath, Bethan Jayne Sullivan, Thomas Rhys Dunn, Hannah Jones ac Aled Morgan Hughes.
AU19712