Gŵyl Shakespeare y Byd
Yr Athro Mike Pearson (chwith) a Mike Brooks.
14 Mehefin 2012
Mae Mike Pearson, Mike Brookes a Simon Banham o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth yn llwyfannu perfformiad amlgyfrwng o Coriolan/us ym mis Awst fel rhan o Ŵyl Shakespeare y Byd.
Cynhyrchiad 21ain Theatr Genedlaethol Cymru yw Coriolan/us, ac un o uchafbwyntiau Gŵyl Llundain 2012 a fydd yn dangos mewn awyrendy ym Mro Morgannwg rhwng 8-11 a 15-18 Awst 2012.
Dyma’r tîm y tu ôl i gynhyrchiad arobryn Theatr Genedlaethol Cymru The Persians.
Bydd y cynhyrchiad hwn o Coriolanus Shakespeare - llwyfaniad cyntaf National Theatre Wales o ddrama gan Shakespeare - hefyd yn gwneud defnydd o addasiad Bertholt Brecht o’r 1950au, Coriolan, gan amlygu rôl y bobl ac effaith gwrthdaro oddi mewn ac ar boblogaeth ddinesig mewn sefyllfaoedd gwleidyddol cyfoes.
Coriolanus yw’r drasiedi a ysgrifennwyd gan Shakespeare yn seiliedig ar fywyd yr arweinydd chwedlonol Rhufeinig, Caius Marcius Coriolanus.
“Mae stori Coriolanus yn fy hudo oherwydd mae’n creu anesmwythodd ac yn edrych i adlewyrchu’r cyfnod yr ydym yn byw ynddo bob tro, ond eto ddim yn cynnig atebion hawdd. Mae’n mynnu ein bod yn meddwl yn wleidyddol,” eglurodd Mike Pearson.
“Yn wahanol i brif gymeriadau trasig eraill Shakespeare, anaml iawn y mae Coriolanus ar ei ben ei hun. Dim ond dwy fonolog sydd ganddo, ac ychydig iawn o gyfle i fynd i ffwrdd i fyfyrio. Mae’r cwbl yn digwydd yn gyhoeddus, ond eto mae’n gwrthod perfformio rôl i’r cyhoedd hwnnw, yn gwrthod chwarae rhan.
“Mae hynny, a lleoliad agored ac uniongyrchol iawn y ddrama - nid oes unrhyw isblotiau, ychydig iawn o olygfeydd dan do ond torf sy’n fythol bresennol - yn ei wneud yn wrthbwynt hudol i fywyd gwleidyddol cyfoes, gyda’r newyddion rownd y cloc a chyfryngau cymdeithasol, arweinyddiaeth annibynadwy ac aflonyddwch sifil.”
Wedi’u hysbrydoli gan y cyfnod lle ceir newyddion 24 awr, CCTV, ac ansefydlogrwydd gwleidyddol a therfysg, bydd y cyd-gyfarwyddwyr Mike Pearson a Mike Brookes yn adeiladu ‘peiriant theatr’ yn Hangar 858, yn RAF St Athan. Bydd y gynulleidfa yn symud o gwmpas y gofod, gan greu eu fersiwn eu hunain o’r stori yn ôl ble y maent yn canfod eu hunain a’r hyn y maent yn ei weld a’i glywed.
Mae Coriolan/us yn gyd-gynhyrchiad ar gyfer Gŵyl Shakespeare y Byd, a gynhyrchir gan y Cwmni Shakespeare Brenhinol i Ŵyl Llundain 2012. Mae Gŵyl Llundain 2012 yn ddathliad DG gyfan 12 wythnos ysblennydd yn rhedeg o 21 Mehefin i 9 Medi 2012, gan ddod ag artistiaid blaengar o ar draws y byd at ei gilydd gyda’r goreuon o’r DG.
Mae’r cast yn cynnwys Brendan Charleson, Jonny Glynn, Nia Gwynne, Richard Harrington, Chris Jared, Richard Lynch, Rhian Morgan, John Rowley, Matthew Thomas, Gerald Tyler a Bethan Witcomb.
AU18612