Noson wybodaeth Clefyd y Siwgr
Ffion Curtis, sydd yn ymchwilio i gelfyd y siwgr, a Ronnie Maher sydd yn cyfrannu at astudiaeth o ddiffyg Fitamin D ar y clefyd.
13 Mehefin 2012
Mae 3.8 miliwn o bobl yn byw gyda clefyd y siwgr ar hyn o bryd yn y DU, a daroganir y bydd y nifer yma’n cynhyddu i 6.25 miliwn ac yn costio £16.9 biliwn i’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (17% o’i chyllideb flynyddol) erbyn y flwyddyn 2035.
Cynhelir Noson Wybodaeth Clefyd y Siwgr gan yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth, ar y cyd â nifer o ddarparwyr iechyd ac elusennau lleol eraill.
Mae’r digwyddiad, a gynhelir am 7yh ar ddydd Mercher y 13eg o Fehefin, yn rhan o’r Wythnos Clefyd y Siwgr (12-16 o Fehefin) a’i bwriad yw codi ymwybyddiaeth o ddiabetes a darparu cefnogaeth ar gyfer y sawl sydd eisoes yn dioddef o’r afiechyd.
Mae mwy nag 160,000 o bobl yng Nghymru wedi derbyn diagnosis o clefyd y siwgr, sef ymron i 5% o’r boblogaeth. Ar ben hynny, amcangyfrifir fod oddeutu 66,000 yn fwy o bobl sy’n dioddef o’r aflwydd on nad sydd eto wedi derbyn diagnosis.
Ni all cyrff dioddefwyr clefyd y siwgr wneud defnydd effeithlon o’r glwcos sydd yn eu gwaed. Golyga hyn nad oes modd defnyddio’r glwcos yn effeithiol fel tannwydd, a chan hynny, erys lefelau uchel ar lwcos yn y gwaed.
Trinnir clefyd y siwgr math 1 gyda chwistrelliadau dyddiol o inswlin. Trinnir clefyd y siwgr math 2, y math sy’n cyfrif am rhwng oddeutu 85% a 95% o bob achos o clefyd y siwgr, gan foddion a/neu inswlin. Mae’r driniaeth argymelliedig ar gyfer y ddau fath yn cynnwys diet gytbwys a gweithgaredd ffisegol cyson.
Dywedodd trefnydd y noswaith, Ffion Curtis, sy’n ymchwilio i mewn i effeithiau diffyg fitamin D ar glefyd y siwgr: “Un o’r prif resymau sydd wrth wraidd y twf yn y nifer o achosion o clefyd y siwgr yw’r newidiadau sydd yn ein ffyrdd o fyw.”
“Mae ein dietau wedi newid ac yr ydym yn gwneud llawer llai o weithgaredd ffisegol na’n cyndeidiau, gan dreulio mwy o amser yn eistedd yn ein ceir, ac o flaen sgriniau teledu. Yr ydym nawr hefyd yn gweld cynydd yn y nifer o blant sy’n datblygu clefyd y siwgr math 2.”
Heb driniaeth a rheolaeth gywir, gall clefyd y siwgr arwain at nifer o gymlethdodau pellach, gan gynnwys afiechyd y galon a strôciau.
Fodd bynnag, medrwn wneud bychain i’n bywydau, ac i fywydau ein teuluoedd, all leihau’r perygl o ddatlbygu clefyd y siwgr, a’n cynhorthwyo wrth reoli’r afiechyd.”
Mewn cydweithrediad â’r GIG, mae gan yr Adran Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer Corff nifer o wahanol astudiaethau ymchwil sy’n archwilio rhai o’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig â clefyd y siwgr.
Mae’r noswaith hon yn gyfle i bobl a chanddynt ddiddordeb mewn ymchwil clefyd y siwgr i gael cip o gwmpas labordai yr Adran.
Bydd cyfle i weld labordai arbennig yr adran. Yno i ateb cwestiynau fydd aelodau o’r tim ymchwil, yr arbenigwr clefyd y siwgr o ysbyty Bronglais, aelodau o Grŵp Cefnogaeth Diabetes UK Machynlleth, a chynrychiolydd o Diabetes UK.
Estynnir croeso cynnes (a the a choffi) i bawb sydd yn dymuno mynychu i ddarganfod mwy am clefyd y siwgr, ac ymchwil clefyd y siwgr. Pe carech fynychu’r digwyddiad, neu pe carech fwy o wybodaeth am y digwyddiad, cysyllwch â Ffion Curtis ar y ffôn 01970 622070, neu ar yr ebost fic7@aber.ac.uk.
AU18712