Llifogydd yn sbarduno astudiaeth llygredd
Gwaith mwyn Cwm Rheidol. Llun drwy garedigrwydd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.
12 Mehefin 2012
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn astudio’r posibilrwydd fod y llifogydd diweddar wedi achosi i fetelau trwm o hen weithfeydd mwyngloddio yn yr ardal gael eu cario gan y dŵr gan achosi llygredd ar diroedd.
Mae'r gwaith yn cael ei arwain gan yr Athro Mark Macklin, arbenigwr ar afonydd a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Ddalgylchoedd ac Arfordiroedd yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.
Bydd y tîm yn casglu samplau dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf er mwyn gwirio am olion o sinc, plwm, cadmiwm a chopr a allai fod wedi eu cario gan y dŵr.
Yn ôl yr Athro Macklin achoswyd y glaw eithafol yng Ngheredigion gan storm law arferol a ddwysawyd gan dirwedd Mynyddoedd y Cambria, ac roedd y llifogydd yn nyffrynnoedd y Rheidol a’r Ystwyth yn waeth o ganlyniad i lanw uchel, gwyntoedd o’r de-orllewin a phwysedd isel.
Llifodd y glaw oddi ar y mynyddoedd yn gyflym oherwydd y tirwedd serth, prin ei bridd a chreigiog gan achosi llifogydd yn rhannau uchaf dyffrynnoedd y Leri, Rheidol a’r Ystwyth.
Mae hefyd o’r farn fod culni'r dyffrynnoedd hyn ynghyd â datblygu tai a busnesau ar orlifdiroedd wedi cyfrannu’n sylweddol at y perygl o lifogydd a’r difrod achoswyd.
"Nid yw'r llifogydd yn ddigynsail yng nghanolbarth Cymru nac ychwaith mewn ardaloedd eraill tebyg yn y Deyrnas Gyfunol", dywedodd yr Athro Macklin. "Cafwyd llifogydd haf tebyg yng nghanolbarth Cymru ym mis Awst 1973 a chyn hynny ym mis Gorffennaf / Awst 1846 pan achoswyd nifer o farwolaethau a dinistr eang yn ne Ceredigion yn enwedig yn Llanon, Talsarn ac Aberaeron."
"Un o ganlyniadau annisgwyl y llifogydd yw llygredd a allai ddeillio o symud gwastraff mwyngloddio metel hanesyddol yn yr ardal a llygru pridd gorlifdir a gwaddod.”
"Mae llifogydd yn gwasgaru gwaddod llygredig wrth lifo lawr y dyffryn ac yn aml mae’r gwaddod hwn yn cynnwys lefelau uchel o blwm sydd yn cael ei wasgaru ar dir amaethyddol, ac yn achos y Leri, i mewn i wlypdiroedd arfordirol ac aberoedd."
"Dyma ddigwyddodd yn sgil llifogydd 2000 o fewn Swydd Efrog a'r Afon Swale sydd yn rhannu'r un math o hanes mwyngloddio. Mae angen rhaglen samplu fanwl er mwyn gwerthuso a yw hyn yn broblem sydd yn galw am astudiaeth bellach."
"Er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd yn y dyfodol mae angen gwell asesiad risg llifogydd yn enwedig gan ddefnyddio cofnodion daearegol diweddar o orlifdiroedd sy'n aml yn darparu archif o lifogydd hanesyddol a'r defnydd o ffynonellau dogfennol i ymestyn y gyfres o lifogydd," ychwanegodd.
"Nid oes mesuryddion llif afon ar nifer o’r dalgylchoedd ucheldir bach yng Nghymru, felly mae'n anodd iawn gwerthuso’r perygl o lifogydd."
Mae’r Athro Macklin hefyd wedi galw am ganllawiau mwy caeth ar gyfer datblygu ar orlifdiroedd, yn enwedig mewn dalgylchoedd bach a serth fel y Leri sydd â lloriau dyffryn cul, sydd yn dueddol o ddioddef llifogydd sydyn yn ogystal, ac mewn afonydd dan ddylanwad y llanw, megis y Rheidol ac Ystwyth.
"Mae gwaith modelu yn awgrymu y gallwn gael mwy o law dwys yn yr haf yn y dyfodol ond mae'n ddiddorol nodi bod dadansoddiad o gofnodion llifogydd geomorffolegol hirdymor sy'n ymestyn dros y 250 mlynedd yn awgrymu bod nifer yr achosion o lifogydd tir uchel difrifol a gafwyd yn ystod rhan olaf y ganrif ddiwethaf a degawdau cyntaf y ganrif bresennol, megis y rhai effeithiodd ar ganolbarth Cymru ym mis Mehefin 2012, yn hanesyddol isel.”
"Os yw modelai rhagolwg yn gywir, ymddengys taw gwaethygu y bydd pethau", ychwanegodd.
AU19912