Y Brifysgol yn falch o noddi’r Urdd

31 Mai 2012

Prifysgol Aberystwyth fydd un o brif noddwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd unwaith eto, ac eleni cynhelir yr Eisteddfod ar Stad Glynllifon, ger Caernarfon, rhwng y 4-9 o Fehefin.

Ers 15 mlynedd bellach y Brifysgol yw darparwr cyswllt gwe swyddogol i’r cyhoedd ar y maes yn ei Chafi Gwe, yn y Ganolfan Groeso.

Galluoga’r gwasanaeth hwn i’r sawl sy’n ymlweld â’r Eisteddfod i ddarganfod yr wybodaeth ddiweddaraf ac i ddanfon a derbyn ebyst yn rhad ac am ddim.

Dena Eisteddfod yr Urdd dros 100,000 o ymwelwyr, 15,000 o gystadleuwyr, ac ymron i filiwn o wylwyr teledu yn flynyddol.

Yn ogystal â’r Caffi Gwe, bydd Prifysgol Aberystwyth hefyd yn noddi digwyddiadau chwaraeon yr Urdd yn ystod yr ŵyl.

Aiff cefnogaeth y Brifysgol i Adran Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru tu hwnt i ffiniau’r Eisteddfod yn unig. Ers blynyddoedd lawer, mae’r Brifysgol wedi gweithio’n agos gyda’r adran i drefnu eu cyrsiau hyfforddi.

Dywedodd Gary Lewis, Cyfarwyddwr Adran Chwaraeon yr Urdd, “Dros y blynyddoedd, mae’r bartneriaeth rhwng Prifysgol Aberystwyth â’r Urdd wedi mynd o nerth i nerth.

“Galluoga’r cydweithrediad i adran chwareon yr Urdd greu cannoedd o gyfleoedd chwaraeon newydd i blant a phobl ifainc Cymru. Mae’r Urdd yn ddiolchgar tu hwnt i Brifysgol Aberystwyth am eu cefnogaeth gyson.”

Mae Eisteddfod yr Urdd, un o wyliau diwylliannol ieuenctid mwyaf Ewrop, yn ŵyl Gymraeg flynyddol lle dethlir llenyddiaeth, cerddoriaeth, a’r celfyddydau perfformiadol. Fe’i threfnir gan Urdd Gobaith Cymru, prif fudiad ieuenctid Cymru.

AU17612