Degawd o chwaraeon ac ymarfer corff
Chwith i’r Dde: Gerald Davies CBE, Dr Joanne Thatcher, Yr Athro April McMahon a Dafydd Jones.
30 Mai 2012
Roedd Gerald Davies CBE, un o’r asgellwyr gorau i chwarae rygbi erioed, a chyn flaenasgellwr y Sgarlets a Chymru, Dafydd Jones, yn westeion anrhydeddus mewn swper mawreddog i ddathlu 10 mlwyddiant yr Adran Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer Corff ar ddydd Sadwrn y 26ain o Fai.
Gan ddychwelyd naw mlynedd wedi agor yr adeilad Carwyn James pwrpasol, a enwyd ar ôl y cynfyfyriwr o Aberystwyth a hyfforddwr y Llewod ar eu taith fuddugoliaethus yn Seland Newydd yn 1971, talodd Gerald Davies deyrnged i waith yr Adran a’r Brifysgol.
Wrth annerch staff, cyn aelodau o staff, myfyrwyr, aelodau o gymdeithasau chwaraeon lleol a phartneriaid ymchwil o’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, soniodd am bwysigrwydd chwaraeon fel rhan o addysg prifysgol a’i swyddogaeth o gynnal cymdeithas wâr.
Mewn darlith a ddisgrifiwyd gan bennaeth yr Adran Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff, Dr Joanne Thatcher fel “y ddarlith Gregynog amgen”, bu Dafydd Jones yn siarad am sut mae rygbi wedi newid dros y blynyddoedd.
Gan ateb cwestiynau gan y gynulleidfa, trafododd Jones y pwyslais cynyddol ar gryfder corfforol yn y gêm fodern, gyda’r dulliau hyfforddi newydd gwyddonol sy’n cynnwys y defnydd o siambrau criogenig, ac o orfod ymddeol yn gynnar wedi iddo dderbyn triniaeth lawfeddygol i ailadeiladu ei ysgwydd dde ar dri achlysur gwahanol.
Dywedodd Dr Joanne Thatcher, Pennaeth yr Adran Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff: “Digwyddiad oedd hwn i ddathlu pob dim a gyflawnwyd gan yr Adran dros y 10 mlynedd diwethaf. Chwaraeon oedd prif ffocws y noswaith, ond mae’n bwysig cydnabod y cyfraniad mae cydweithwyr yn gwneud mewn meysydd fel iechyd a sut mae ymarfer corff yn rhan hanfodol yn y broses o wella bywydau pobl - o fyw gyda chlefyd y siwgr i helpu henoed i wella cydbwysedd ac osgoi syrthio.”
Ymysg y sawl oedd yno oedd yr Athro Jo Doust, Pennaeth cyntaf yr Adran, a Mrs Penny Barrett, gweddw’r diweddar Athro John Barrett, a fu’n rhan mor allweddol fel Pennaeth Dros-Dro ym mlynyddoedd ffurfiannol yr adran.
AU18012