Dathliadau Olympaidd

28 Mai 2012

Ychydig cyn saith o’r gloch ar nos Sul, croesawodd Aberystwyth y Ffagl Olympaidd i’r dref, ger bron torf o oddeutu 8000 o bobl yng Nghaeau’r Ficerdy, caeau chwarae’r Brifysgol.

Wedi taith trwy Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion, daliwyd y Ffagl Olympaidd fyny fry gan yr hogyn 16 mlwydd oed, Kyle Thomson, wrth iddo ei chario i’r cae ac yna i’r llwyfan i gymeradwyaeth y dorf.

Enwebwyd dau fyfyriwr a dau aelod o staff i fod yn gludwyr y fflam ar gymal Ceredigion o’i thaith fawr o gwmpas Prydain, gan arwain at Lundain 2012, a fydd yn dechrau ar y 27ain o Orffennaf yn Llundain.

Cludwyd y ffagl trwy Aberystwyth gan Bridget James o’r Ganolfan Chwaraeon, Qiang Shen o’r Adran Gyfrifiadureg, a Susannah Ditton, myfyrwraig israddedig yn IGES, tra fo Shon Rowcliffe, myfyriwr ail flwyddyn yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, wedi cludo’r fflam trwy Frynhoffnant.

Ar fore dydd Llun, aeth y Ffagl o gwmpas tref Aberystwyth, gan dramwyo i ben y Graig Glais, ar hyd y Prom, heibio i’r Hen Goleg, ac yna i’r Llyfrgell Genedlaethol, cyn gadael i fyny rhiw Penglais tuag at Fow Street ac ymlaen i Fangor.

Bydd gwrandawyr Radio 1 y BBC yn ymwybodol fod Chris Moyles wedi bod yn y dref ar gyfer y dathliadau arbennig, ac y bu iddo ddarlledu rhan o’i raglen frecwast o stiwdio y BBC ar y Campws.

Roedd y staff yn Nhamed Da ar ben ei digon o gael darparu brecwast Cymreig iachus i Chris a’i dim, ac i’w croesawu i’r dref, ar benwythnos chwaraeon hanesyddol.