Cipio carbon
Aber y Ddyfi. Credit Janet Baxter
24 Mai 2012
Bydd y gwaith o reoli ucheldiroedd Cymru er mwyn diogelu stociau hanesyddol o garbon a storio carbon yn y dyfodol tra'n hyrwyddo datblygiad economaidd yn cael ei drafod gan wyddonwyr, cadwraethwyr, rheolwyr tir ac economegwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Gwener 25 Mai.
Yn ôl yr adroddiad Defnydd Tir a Newid yn yr Hinsawdd a gyflwynwyd i Lywodraeth Cynulliad Cymru ym Mawrth 2010 amcangyfrifir bod tua 500 miliwn tunnell o garbon a hyd at 1.9 biliwn tunnell o garbon deuocsid yn cael eu storio yn nhiroedd Cymru.
Bydd y gynhadledd undydd hon yn trafod pryderon y gallai rheolaeth amhriodol o ucheldiroedd Cymru, sy'n ymestyn dros 23% o arwynebedd y wlad, ynghyd â chynhesu yn yr hinsawdd, arwain at ryddhau nwyon tŷ gwydr a allai fod yn ddifrodus a chyfrannu at gynhesu byd-eang.
Mae'r gynhadledd yn cael ei threfnu gan Grŵp Ymchwil Ecoleg Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn Aberystwyth, gyda chefnogaeth Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.
Yn ôl Dr Dylan Gwynn Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Ecoleg yn IBERS, mae gan Gymru hanes arwyddocaol o ran yr economi carbon byd-eang.
“Glo ac adnoddau naturiol Cymru a yrrodd y chwildro diwydiannol. Yn draddodiadol roedd y math yma o ddefnydd o adnoddau ac ynni yn digwydd ar draul yr amgylchedd. Erbyn hyn mae ffocws clir ar yr angen i ddatblygiadau’r dyfodol fod yn gynaliadwy ac yn isel eu defnydd carbon,” dywedodd Dr Jones.
"Amaethyddiaeth fugeiliol dwysedd isel oedd asgwrn cefn economi ucheldir Cymru am flynyddoedd lawer. Yn fwy diweddar gwelwyd defnydd ohonynt ar gyfer twristiaeth ac ynni adnewyddol. Ochr yn ochr â’r holl elfennau eraill yma a gwerth bioamrywiaeth, mae’r adnodd carbon gwerthfawr iawn yma sydd angen ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol.”
"Bydd y cyfarfod hwn yn cysylltu ecoleg ac economi ucheldir Cymru gyda'i adnoddau carbon y pridd. Byddwn yn trafod bygythiadau i'r adnoddau hyn, gan gynnwys a ddylid rheoli ardaloedd yr ucheldir er mwyn dal carbon, yn enwedig wrth ystyried newid hinsawdd yn y dyfodol.
“Byddwn hefyd yn trafod a ddylai gyrwyr polisi gael eu defnyddio er mwy integreiddio storio carbon gydag anghenion cadwraeth bioamrywiaeth. Bydd ystyriaeth bellach i’r arfer cynyddol o werthuso rheolaeth stôr carbon yn y pridd er mwyn gwneud yn iawn am allyriadau carbon yn y dyfodol.”
Mae’ r sefydliadau a gynrychiolir yn y gynhadledd yn cynnwys: Ucheldir Cynaliadwy; Undeb Ryngwladol Rhaglen Cadwraeth Mawnogydd Natur; Grŵp Ucheldir Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru; Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol; Y Comisiwn Coedwigaeth; Llywodraeth Cymru - Dyfodol Cynaliadwy; Cyngor Cefn Gwlad Cymru, RSPB, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru; Prifysgol Bangor; Canolfan Ecoleg a Hydroleg (Bangor a Chaerhirfryn); Dulas; Prifysgol Caerhirfryn; Prifysgol Lerpwl; Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Maldwyn.
AU16212