Digwyddiadau hanesyddol Cymru ar-lein

17 Mai 2012

Mae ymchwil gan Brifysgol Aberystwyth sydd yn cofnodi atgofion pobl o wylio rhai o ddigwyddiadau mwyaf arwyddocaol Cymru ar y teledu rhwng 1950 - 2000, nawr i'w weld ar wefan newydd www.cofarcyfryngau.co.uk

Digwyddiadau hanesyddol megis trychineb Aberfan ym 1966, Streic y Glowyr ym 1984 a Choroni’r Frenhines ym 1953 yw rhai o'r digwyddiadau pwysig sydd wedi cael eu dogfennu a'u rhoi ar y wefan.

Yn ogystal â chyfweliadau gyda chyfranwyr a ffilmiau, mae’r wefan a elwir Cof a'r Cyfryngau yng Nghymru, hefyd yn cynnwys mapiau, dogfennau a lluniau.

Wrth weithio mewn pedair ardal yng Nghymru - Caernarfon, Caerfyrddin, Y Rhondda a Wrecsam - fe wnaeth ymchwilwyr gyfweld a phobl ynglŷn â'r ffordd yr effeithiodd teledu ar eu bywydau a'r ffordd yr oeddent yn gweld y byd o'u cwmpas.

Dywedodd yr Athro Iwan Rhys Morus o’r Adran Hanes a Hanes Cymru ac arweinydd y prosiect, “Fe fydd y wefan yn adnodd hanfodol i ymchwilwyr academaidd, i weithwyr proffesiynol ym myd y cyfryngau ac i lunwyr polisi o hyn ymlaen. Mae modd treulio oriau yn turio drwy'r hanesion sydd wedi eu casglu yma.

“Fe fydd yr archif yn dilyn y prosiect hwn yn cynnig adnodd arwyddocaol ar gyfer deall gwleidyddiaeth teledu. Am lawer o'r hanner can mlynedd dan sylw, roedd teledu yn faes brwydrau allweddol dros hunaniaeth ieithyddol a chenedlaethol.

“Mae'r wefan newydd yma yn cynnwys archif hynod a phwysig sy'n arddangos rôl y teledu ym mywydau Cymry dros hanner canrif. Rwy’n siŵr fod rhywbeth i bawb yma.”

Ariannwyd y prosiect gan y Joint Information Systems Committee (JISC), ac mae wedi'i gyflawni gan Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth gyda chefnogaeth partner y prosiect, Culturenet Cymru.

Mae partneriaid eraill yn cynnwys BBC Cymru; roedd ei hen ffilmiau yn bwysig ar gyfer sbarduno atgofion pobl, a’r Archif Sgrin a Sain yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lle mae’r cynnwys yn cael ei archifo.

Os yw pobl yn cael eu hysbrydoli i rannu'u hatgofion o wylio'r digwyddiadau hyn ac effaith teledu ar eu bywydau, gallant wneud hynny drwy gyfrannu i wefan Casgliad y Werin Cymru – www.casgliadywerincymru.co.uk

AU15112