Arweinyddiaeth yn y Llynges

16 Mai 2012

Mae'r llawlyfr cyntaf mewn bron i 50 mlynedd ar arweinyddiaeth o fewn y Llynges Frenhinol wedi cael ei gynhyrchu gan yr Athro Andrew St George, Cymrawd Addysgu MBA yn Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth.

Cafodd y gyfrol ei hysgrifennu dros gyfnod o dair blynedd a chaniatawyd mynediad llawn i’r awdur i'r Llynges Frenhinol ar bob lefel. Yn ôl y cyhoeddwyr Random House mae Royal Navy Way of Leadership yn "lyfr diffiniol ar arweinyddiaeth mewn busnes ac mewn bywyd gan un o ymarferwyr arweinyddiaeth fwyaf blaenllaw'r Deyrnas Gyfunol".

Mae 15,000 o gopïau o'r llyfr yn cael eu dosbarthu gan y Llynges Frenhinol i bob un o'i swyddogion, rheolwyr uwch, a'i holl sefydliadau hyfforddi cenedlaethol a rhyngwladol. Mi fydd yn cael ei gyhoeddi’n fasnachol yn y Deyrnas Gyfunol ar y 7fed o Fehefin.

Bedair blynedd yn ôl derbyniodd Andrew St George gais gan Ail Arglwydd Môr y Llynges Frenhinol i dreulio amser gyda phob lefel o staff y Llynges, o forwyr iau yn ystafell injan llong awyrennau, i drinwyr cychod glanio, y Royal Marines, cadlywyddion llongau, a staff y Llynges Frenhinol hyd at lefel Bwrdd a Chabinet y Llynges, gyda'r nod o greu llyfr sy'n distyllio diwylliant arweinyddiaeth y Llynges.

Hwn yw'r darn mwyaf o ymchwil ar arweinyddiaeth y Llynges Frenhinol gafodd ei wneud erioed ac mae'r llyfr yn dilyn y daith honno. Hwn yw’r fframwaith arweinyddiaeth ddiweddaraf ar gyfer y Llynges.

"Mae popeth sydd yn y llyfr yma oherwydd ei fod yn gweithio, wedi ei brofi dros filoedd o oriau o hyfforddiant caled, asesiad manwl a mesur absoliwt," meddai Andrew.

"Mae negeseuon y llyfr yn dwyllodrus o syml. Er mwyn llwyddo rhaid i ni feddu ar: eglurder o fwriad; y strategaeth; yr adnoddau; cynllun wrth gefn; a buddsoddiad emosiynol. Maent yn ddaliadau sy’n berthnasol i bob agwedd o fywyd busnes a phersonol: maent yn dod o drefn brwydr Nelson yn Trafalgar."

"Mae’r llyfr yn cynnig mewnwelediadau sydd yn berthnasol i nifer o feysydd: diwydiant, cyllid, gwasanaethau proffesiynol, masnach, y byd academaidd, ac ar gyfer y sector cyhoeddus mae’r dulliau hyn o gynllunio, gweithredu ac ysbrydoli yn cynnig ffordd effeithiol o arwain sydd wedi ei phrofi."

Bydd Andrew St George yng Ngŵyl y Gelli Gandryll ar y 10fed o Fehefin (7pm) pan fydd yn siarad gyda'r Cadfridog Cyffredinol y Royal Marines, y Cadfridog Edward Davis.

Andrew St George
Yn ystod y deng mlynedd diwethaf mae Andrew St George wedi cynghori a mentora llawer o swyddogion cwmnïoedd y FTSE 100, gwleidyddion, diplomyddion ac arweinwyr y Ddinas. Mae'n darlithio ar reoli ac arwain mewn busnes mewn prifysgolion, ysgolion busnes ac yn y lluoedd arfog. Mae'n ysgrifennu ar y ffordd y mae strategaethau clir penodol wrth wneud penderfyniadau a’r 'sgiliau meddal' yn ein perthynas gydag eraill yn gwneud bywyd yn unrhyw un yn fwy syml, o bob rhan o'n bywydau gwaith i gynllunio gwyliau, prynu tŷ neu ymdrin ag argyfwng yn y cartref.

Addysgwyd ef yng Nghaergrawnt, Harvard (Cymrawd Kennedy) a Rhydychen lle bu'n Gymrawd Christ Church, mae’n Athro ym Mhrifysgol Cymru, y Uwch Gymrawd o Aberystwyth ac yn aelod o fwrdd Ysgol Fusnes Prifysgol Abertawe a LEAD Cymru/Wales. Mae'n Ymddiriedolwr Lywodraethwr Ysgol y Brenin Alfred (Yr ysgol wladol sy'n perfformio orau yn Swydd Rhydychen).

AU14612