Agor canolfan ffenomeg £6.8m

Ty gwydr y Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion.

Ty gwydr y Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion.

14 Mai 2012

Heddiw, dydd Llun 14eg Mai 2012, mae Canolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion newydd, sy’n cynnwys y tŷ gwydr ymchwil mwyaf datblygedig yn y DU, yn cael ei hagor yn swyddogol gan Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r Ganolfan newydd yn adnodd cenedlaethol tan gefnogaeth y Cyngor Ymchwil i Fiotechnoleg ac Ymchwil Fiolegol (Biotechnology and Biological Sciences Research Council - BBSRC) ac fe’i datblygwyd am gost o £6.8m.

Bydd yr ymchwil a gynhelir yn y ganolfan genedlaethol newydd hon yn gymorth i ddatblygu amrywiadau newydd ar blanhigion a chnydau er mwyn dygymod â sialensiau newid hinsawdd byd eang, diogelwch bwyd, a chanfod deunyddiau amgen i gymryd lle cynhyrchion wedi’u gwneud o olew.

Wedi’i leoli ar gampws Gogerddan y Brifysgol, fe’i hagorir gan Gadeirydd y BBSRC, yr Athro Syr Tom Blundell FRS am 12:00 y prynhawn.

Mae’r adeilad newydd yn un o ddau fuddsoddiad cyllidol mawr sy’n cael eu hagor ar yr un dydd.

Am 3.30 y prynhawn bydd Leighton Andrews, Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, yn agor adnoddau dysgu ac ymchwil ar gampws Penglais y Brifysgol.

Adlewyrcha’r adnodd ym Mhenglais fuddsoddiad o £5.6m ac ynddo ceir labordai Biowybodeg a Modeli Gofodol yn ogystal â chanolfan ar gyfer addysgu israddedig ac uwchraddedig.

Gyda’i gilydd, adlewyrcha’r datblygiadau benllanw rhaglen fuddsoddiad cyllid bedair blynedd o £25m a alluogwyd gan gymorth ariannol oddi wrth y BBSRC, Llywodraeth Cymru, a’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Mae hwn yn ddydd hynod o bwysig i Brifysgol Aberystwyth ac i IBERS. Adlewyrchir ein huchelgais fel Prifysgol, yn y weithred o agor yr adnodd cenedlaethol newydd hyn yma yn Aberystwyth, o gyfrannu fel canolfan o ragoriaeth ryngwladol, o ran ymchwil ac wrth ysbrydoli cenhedlaeth newydd o raddedigion hyfforddedig a chanddynt y doniau i ymgymryd â rhai o’r cwestiynau amgylcheddol mawr sy’n wynebu’r gymdeithas.”

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r BBSRC a Llywodraeth Cymru am eu buddsoddiad yn y prosiect blaengar hwn ac i bawb a fu’n rhan o’r prosiect yn ystod y cyfnodau cynllunio ac adeiladu.”, ychwanegodd.

Dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS: “Golyga effeithiau cyfun twf poblogaeth y byd, newid hinsawdd a phrinder dŵr a thir mai diogelwch bwyd a dŵr fydd un o’r prif sialensau bydol ar gyfer yr 21ain ganrif.  Golyga’r Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion fod gan ymchwilwyr yn y DU ac yn rhyngwladol y dechnoleg ddiweddaraf er mwyn datblygu amrywiaethau cnwd newydd gall ffynnu mewn amodau anodd a chyfrannu’n helaeth tuag at gynnyrch bwyd y dyfodol.”

Dywedodd Cadeirydd y BBSRC, yr Athro Syr Tom Blundell: “Bydd buddiannau’r buddsoddiad yma yn cyrraedd ymhell tu hwnt i furiau’r Brifysgol, gan gynnig gallu newydd cenedlaethol mewn gwyddoniaeth cnwd. Bydd y darganfyddiadau a wneir yma yn cyfrannu at yr ymgais i ddygymod â sialensiau mawrion, megis bwydo poblogaeth sy’n tyfu. Ni fydd y buddsoddiad hwn mewn biowyddoniaeth yn creu swyddi newydd yn unig, mewn meysydd fel adeiladu, ond bydd hefyd yn cyfrannu at y potensial am dwf ym meicroeconomi y DU sydd wedi’i seilio ar wybodaeth."

Dywedodd Leighton Andrews: “Mae’r adnodd arbennig hwn ar gyfer ymchwil a dysgu yn y gwyddorau sy’n seiliedig ar y tir yn esiampl wych o’r math ar Addysg Uwch blaengar y carai Llywodraeth Cymru weld. Yr ydym wedi buddsoddi’n helaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth fel rhan o’n hagenda uchelgeisiol am wyddoniaeth a dyfeisgarwch yma yng Nghymru. Bydd y ganolfan newydd hon yn datblygu enw da’r Brifysgol fel canolfan ymchwil fiowyddoniaeth a chanddi berthnasedd fyd eang, a dylid dathlu hynny.”

Y Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion
Bydd y Ganolfan, sy’n cynnwys tŷ gwydr o’r math diweddaraf – yr unig un o’i fath yn y DU ac un o ddim ond 7 yn yr holl fyd, yn galluogi ymchwilwyr i astudio planhigion unigol mewn modd nad oedd yn bosibl o’r blaen.

Gyda lle ar gyfer 850 planhigyn mewn potiau unigol ar gyfres o feltiau cludo 300 metr o hyd, bydd gwyddonwyr yn medru gweithredu nifer o batrymau bwydo a dyfrhau gwahanol i bob planhigyn unigol wrth iddynt astudio dylanwad genynnau unigol.

Bydd deg camera tan reolaeth gyfrifiadurol yn defnyddio dulliau delweddu fflworoleuedd, infra-red ac agos at infra-red, laser a delweddu gwraidd ynghyd er mwyn llunio delweddau 3D o’r planhigion, ac i fonitro eu twf ar raddfa ddyddiol.

Nid oes modd astudio hyd at y lefel hon ar fanylder trwy ddefnyddio dulliau cyfredol. Bydd yr wybodaeth fanwl hon yn galluogi ymchwilwyr i gyflymu’r broses o ganfod genynnau defnyddiol.

Defnyddir y genynnau defnyddiol hyn i ddatblygu amrywiadau newydd ar blanhigion er mwyn herio newid hinsawdd a diogelwch bwyd, ac er mwyn cymryd lle cynhyrchion sy’n seiliedig ar olew.

IBERS Penglais
Mae’r adnoddau dysgu ac ymchwil newydd yn IBERS Penglais wedi’u cynllunio i ddarparu canolfan ar gyfer cydweithrediad arloesol rhwng gwyddonwyr IBERS ac ymchwilwyr mewn meysydd eraill ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gan weithio’n agos gyda gwyddonwyr cyfrifiadureg, mae gwyddonwyr IBERS yn cydweithio ar ddatblygiadau newydd cyffrous a fydd yn arwain y ffordd at brosesu swmp aruthrol o ddata am y planhigion newydd sy’n cael eu datblygu. Cartref y gwaith hwn fydd y Labordy Biowybodeg newydd.

Daw’r Labordy Modeli Gofod â biolegwyr a daearyddwyr ynghyd i ddeall sut gall daearyddiaeth ardal effeithio ar brosesau biolegol. Un maes astudiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yw lledaeniad Malaria yn Affrica, a sut gall hyn gael ei effeithio gan newid hinsawdd.

Cynlluniwyd yr adnodau newydd er mwyn datblygu cyrsiau uwchraddedig newydd gan gynnwys gradd newydd mewn Biodechnoleg Werdd a Newyddbethau.

Bydd yr MSc newydd hwn yn hyfforddi myfyrwyr mewn ymchwil biodechnoleg werdd, rheolaeth, busnes a rhyngweithiad â diwydiant gan ddarparu cenhedlaeth newydd o fiodechnegwyr sy’n deall busnes a chanddynt y ddawn i ddatblygu cynhyrchion bio-seiliedig i gymryd lle tanwyddau ffosil ac i ateb gofynion llywodraethau dros y byd am leihad carbon.

AU11812