Blwyddyn mewn uned greadigol

O’r chwith i’r dde:Mr Alan Hewson, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Ruth Emily Davey o Ruth Emily Davey Shoes (Enillydd Cystadleuaeth 2011) a Mr Tony Orme, Rheolwr Menter, Gwasanaeth Masnacheiddio ac Ymgynghori Prifysgol Aberystwyth.

O’r chwith i’r dde:Mr Alan Hewson, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Ruth Emily Davey o Ruth Emily Davey Shoes (Enillydd Cystadleuaeth 2011) a Mr Tony Orme, Rheolwr Menter, Gwasanaeth Masnacheiddio ac Ymgynghori Prifysgol Aberystwyth.

11 Mai 2012

Ydych chi’n unigolyn sy’n chwilio am ofod stiwdio/gweithdy i ddatblygu busnes newydd neu syniad am fenter gymunedol, neu a ydych chi’n fusnes creadigol gweddol newydd sydd wedi bod yn masnachu am lai na dwy flynedd?

A oes gennych chi gysylltiad eisoes â Phrifysgol Aberystwyth (fel myfyriwr / aelod o’r staff / cyn fyfyriwr) neu a oes gan y busnes y potensial i ddatblygu cysylltiadau ac i fod yn rhan o’r gymuned greadigol gynyddol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth?

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, mae’r gystadleuaeth gyffrous hon yn cynnig gofod stiwdio di-rent am flwyddyn o Fedi 2012 ymlaen, yn un o’r Unedau Creadigol arobryn yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

“Mae’r gystadleuaeth ‘Blwyddyn mewn Uned Greadigol’ yn agored i fusnesau neu syniadau am fentrau cymunedol seiliedig ar unrhyw un o’r Diwydiannau Creadigol gan gynnwys ffilm, teledu, y cyfryngau newydd, y celfyddydau perfformio, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol a llenyddiaeth,” eglurodd Tony Orme, Rheolwr Menter Prifysgol Aberystwyth.

Bydd yr enillydd yn gallu manteisio ar ofod stiwdio modern a hyblyg yn un o’r un ar bymtheg o Unedau Creadigol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, canolfan gelf fwyaf Cymru ac un sy’n cael ei chydnabod yn ‘ganolfan genedlaethol flaenllaw ar gyfer y Celfyddydau’.
 
Meddai Alan Hewson, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth: “Mae’r gystadleuaeth yn darparu cyfle cyffrous i gwmni newydd ddod yn rhan o’r gymuned greadigol yng Nghanolfan y Celfyddydau ac i weithio gyda’r busenesau celfyddydol a’r artistiaid preswyl eraill yn ein Hunedau Creadigol arobryn.”

Bydd y ceisiadau yn cael eu pwyso a’u mesur gan banel a bydd y rhai sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu syniad am fusnes mewn fforwn ar ddull y rhaglen deledu ‘Dragon’s Den’.

Mae enillwyr blaenorol y gystadleuaeth ‘Blwyddyn mewn Uned’ yn cynnwys Ruth Emily Davey o Ruth Emily Davey Shoes, Lisa Young o Lisa Young Ceramics a Ric Lloyd o Cleftec Digital.

Wrth edrych yn ôl ar ennill y gystadleuaeth yn 2011, mae Ruth Emily Davey yn egluro, “Mae’r ‘flwyddyn mewn uned greadigol’ wedi rhoi cyfle unigryw imi ledu f’adennydd ym myd busnes ymhlith cymuned wych o artistiaid sy’n rhan o fyd bywiog a chyfoes y celfyddydau yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth”.

Am fanylion llawn y gystadleuaeth ewch i: www.aber.ac.uk/year-in-a-unit
neu cysylltwch â Tony Orme,  Rheolwr Menter , Prifysgol  Aberystwyth: awo@aber.ac.uk / 01970 622203.

5 o’r gloch brynhawn Gwener 29ain Mehefin 2011 yw’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chydlynu gan Wasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori (GMY) Prifysgol Aberystwyth, gan weithio ar y cyd â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

AU12312