Gweinidog Addysg i siarad yn y Brifysgol
10 Mai 2012
Fe fydd Leighton Andrews, Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru , yn siarad yn Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth, ar ddydd Llun y 14eg o Fai.
Bydd ei ddarlith o dan y tetil 'Addysg a Bywyd Cyhoeddus Cymru' yn cael ei chynnal ym Mrif Neuadd yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol am 7.30pm. Mae’r noson, sydd yn cael ei gadeirio gan Is-Ganghellor y Brifysgol, April McMahon, ar agor i'r cyhoedd.
Esboniodd Dr Anwen Elias, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru "Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Leighton Andrews yma ac i glywed ei fyfyrdodau ar addysg yng Nghymru a'r heriau ar gyfer y dyfodol. Mae hwn yn bwnc berthnasol iawn, ac rwy'n siwr y bydd yn profi yn ddarlith ddiddorol sy’n ysgogi'r meddwl.
Ganwyd yng Nghaerdydd a'i fagu yn y Barri a Dorset. Mae ganddo BA Anrhydedd (Saesneg a Hanes) o Brifysgol Bangor, ac MA mewn Hanes o Brifysgol Sussex. Roedd yn athro gwadd ym Mhrifysgol San Steffan rhwng 1997 i 2002, ac mae'n athro er anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cafodd Leighton Andrews ei ethol gyntaf i'r Cynulliad ym mis Mai 2003 ac yn ystod ei dymor cyntaf, gwasanaethodd ar y Pwyllgor Addysg, Diwylliant a Phwyllgorau Datblygu Economaidd.
Fe ail-etholwyd Leighton Andrews ym Mai 2007, lle ymunodd â Llywodraeth Cynulliad Cymru fel Dirprwy Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda chyfrifoldeb arbennig am faterion tai.
Pan ffurfiodd y llywodraeth glymblaid Cymru'n Un ym mis Gorffennaf 2007, fe benodwyd Leighton Andrews yn Ddirprwy Weinidog dros Adfywio, gan weithio o fewn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth a'r Adran dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. Yn 2009 cafodd ei benodi'n Weinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes.
Penodwyd Leighton Andrews yn Weinidog dros Addysg a Sgiliau yn mis Mai 2011.
Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys addysg, economi, diwylliant, tai, y cyfryngau, iechyd a chynhwysiant cymdeithasol.
AU11512