Phys-CHIC yn gwneud ffiseg yn hwyl

04 Mai 2012

Bydd grŵp o 20 myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth, sy’n anelu i ennyn diddordeb pobl ifainc mewn mathemateg a gwyddoniaeth, yn cynnal ffair wyddoniaeth ddydd Sadwrn yma (5 Mai) yng Ngwesty’r Bell Vue Royal Hotel yn Aberystwyth.

Ffurfiwyd y grŵp, sy’n dwyn yr enw Phys-CHIC a sy’n rhan o’r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg (IMAPS), 18 mis yn ôl, gyda’r bwriad gwreiddiol o ennyn diddordeb mwy o ferched mewn gwyddoniaeth.

Ers hynny, mae’r grŵp wedi tyfu’n sylweddol, ac y mae wedi ehangu ei waith i genhadu gwyddoniaeth ymlith disgyblion ysgol cynradd ac uwchradd. Mae mwy nag 1,500 o blant wedi cymryd rhan mewn sesiynau a drefnwyd gan Phys-CHIC hyd yn hyn.

Esbonia Clare McLoughlin, myfyrwraig ffiseg yn ei phedwaredd blwyddyn, “Yr ydym wedi ymweld â sawl ysgol a grŵp ieuencitud lleol yn y sir a mae ein sesiynau bob tro’n hwyl ac yn rhyngweithiol, sy’n beth pwysig os ydym am ennyn diddordeb mwy o blant yn y maes.

“Yn y ffair wyddoniaeth ddydd Sadwrn, bydd cyfle i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau fydd yn cynnwys creu cychod modur, awyrenau, sbectolau 3D, lampiau lafa a pheli bownsiog – a gallant fynd a phob un o’r pethau hyn adref gyda nhw ar ddiwedd y dydd.“

Bydd oddeutu 20 stondin i’w gweld yno, a bydd rhain yn cynnwys arddangosiadau, gweithgareddau celf a chrefft, a rhywfaint o hanes IMAPS yn Aberystwyth.

AU13012