Y theatr ôl-ddramatig
03 Mai 2012
Fe fydd yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth yn croesawu’r Athro Hans-Thies Lehmann ar ddydd Gwener 4 Mai, un o ysgolheigion rhyngwladol mwyaf nodedig byd y theatr.
Mae ei syniad arloesol o ‘theatr ôl-ddramatig’ wedi gwneud cyfraniad sylweddol i astudiaeth theatr gyfoes ac i berfformiad ymarferol. Mae ei lyfr, a elwir hefyd yn Postdramatic Theatre, wedi ei gyfieithu i 18 o ieithoedd.
Yn ei ddarlith, bydd yr Athro Lehmann yn olrhain newidiadau a datblygiadau yn y dirwedd theatr ôl-ddramatig ers i’w lyfr dylanwadol ymddangos gyntaf yn yr Almaeneg yn 1999.
Un prif ffocws arall yn ei sgwrs fydd rôl y gwyliwr mewn theatr gyfoes drwy gyfeirio at weithiau diweddar gan Nicolas Stemann, Laurent Chétouane, René Pollesch, Falk Richter, And Company, She She Pop ac eraill.
Trwy gydol ei yrfa, mae’r Athro Lehmann wedi bod yn ymwneud â theatr ymarferol, gan weithio fel dramategydd (cynghorydd llenyddol sydd yn rhan o staff y theatr) ar gyfer cyfarwyddwyr fel Peter Palitzsch, Jossi Wieler, Christof Nel a Theodoros Terzopoulos.
Cynhelir y ddarlith, sy’n dwyn y teitl ‘Postdramatic Theatre in Transition’, yn Stiwdio’r Ffowndri, Adeilad Parry-Williams, ar gampws y Brifysgol am 5pm ar ddydd Gwener 4 Mai, ac mae hi agored i'r cyhoedd.
Mae’r Athro Lehmann yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
AU13212