Gallai gwaed asidig arwain at aur Olympaidd

Y Stadiwm Olympaidd. Credit London 2012.

Y Stadiwm Olympaidd. Credit London 2012.

02 Mai 2012

Mae gwyddonydd chwaraeon ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi dod o hyd i ffyrdd newydd o ymgynhesu a all helpu i wella perfformiad athletwyr a gwneud y gwahaniaeth rhwng ennill medal aur neu arian.

Dr Mark Burnley, darlithydd mewn Ffisioleg Ymarfer Corff yn yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer (SES) yn y Brifysgol, sydd wedi bod yn astudio’r ymarferion dwysedd uchel a elwir yn "preimio".

Mae Dr Burnley, ac ymchwilwyr o Brifysgol Brighton a Chaerwysg, wedi bod yn astudio sut mae preimio yn cynyddu crynodiad o lactad yn y gwaed, gan wneud y gwaed yn asidig, sydd yn gwella perfformiad yn y pen draw.

Mae'r gwaith yn gwella perfformiad mewn unrhyw gamp chwaraeon sy'n para o tua dwy funud hyd at tua 30 munud.

Mewn stadiwm athletau, mae hyn yn golygu y gallai pob camp o'r 800 metr i'r 10,000 metr gael eu gwella drwy ymarferion preimio. Bydd llawer o gampau beicio a rhwyfo hefyd yn cael eu gwella drwy ymarferion preimio.

O ganlyniad, gallai llawer o berfformiadau mawr Llundain 2012 gael eu cyflawni gan athletwyr sydd wedi eu preimio drwy gynyddu’r asid yn y gwaed ar sail ymchwil gan wyddonwyr ym mhrifysgolion y DG.

"Rydym wedi bod yn astudio ymarferion preimio yn Aberystwyth ers sefydlu’r Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yma yn 2002," meddai Dr Burnley.

"Drwy weithio ar y cyd â'r Athro Andy Jones o Brifysgol Exeter a phennaeth cyntaf yr adran yn Aberystwyth, yr Athro Jonathan Doust, sydd bellach ym Mhrifysgol Brighton, rydym wedi darparu tystiolaeth glir o effeithiolrwydd yr ymarfer dwysedd uchel wrth baratoi ar gyfer perfformiad chwaraeon.

"Rydym hefyd wedi dangos nad oes angen i athletwyr boeni gormod am orfod aros am amser hir rhwng ymgynhesu a’r gystadleuaeth, gan y gall yr effaith preimio bara am hyd at 45 munud."

Mae'r ymchwil yma wedi cael ei amlygu mewn adroddiad sy'n dangos effaith ymchwil prifysgolion a datblygiad chwaraeon ar y Gemau Olympaidd a Paralympaidd gan gynnwys diwydiant chwaraeon y DG a fydd yn cael ei lansio heddiw (dydd Mercher 2 Mai).

Mae'r adroddiad, Cefnogi stori lwyddiant y DG: Effaith ymchwil prifysgol a datblygu chwaraeon, wedi cael ei ryddhau fel rhan o Wythnos y Prifysgolion (30 Ebrill - 7 Mai) sy'n anelu i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o rôl eang ac amrywiol prifysgolion y DG.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, April McMahon,, "Mae'r gwaith a wneir gan Dr Burnley yn enghraifft wych o sut mae ymchwil yn hanfodol er mwyn deall pob agwedd o ymarfer corff, chwaraeon ac iechyd. Mae gwyddonwyr chwaraeon ac ymarfer corff yn chwarae rhan gynyddol bwysig o fewn cymdeithas, yn aml yn arwain y ffordd gyda datblygiadau mewn perfformiad chwaraeon a gwyddorau iechyd.

"Mae Wythnos y Prifysgolion 2012 yn gyfle gwych i arddangos rhywfaint o'r gwaith gwych mae rhai prifysgolion yn cyfrannu at y byd chwaraeon, sy'n arbennig o addas o ystyried bod y Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal eleni."

Mae'r adroddiad yn edrych yn fanwl ar sut mae archwilio a datblygu yn y meysydd dylunio a thechnoleg, iechyd a lles, datblygu chwaraeon a chyfranogiad a'r Gemau yn y gorffennol a'r presennol, wedi cyfrannu at Lundain 2012 a'r diwydiant chwaraeon yn y DG.

O'r wyddoniaeth y tu ôl hydradiad athletwr i adfywio Dwyrain Llundain, cartref y Parc Olympaidd, mae'r adroddiad yn mynd ar daith trwy waith ymchwil a datblygu chwaraeon a fydd yn cael effaith barhaol ar Lundain 2012 ac y DG.

Trwy’r adroddiad, mae materion o ddygnwch yn eistedd ochr yn ochr ag enghreifftiau o adfywio trefol a hanes meddygaeth chwaraeon i ddangos y ffyrdd amrywiol y mae'r gymdeithas gyfan of fewn y DG yn elwa o waith prifysgolion sy'n gysylltiedig â'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

Dywedodd Nicola Dandridge, Prif Weithredwr, Prifysgolion y DG,: "Mae'n hawdd anghofio pan rydych yn gwylio athletwr neu dîm yn cystadlu, faint yn union o waith paratoi sydd wedi mynd fewn i berfformiad. Nid yw hyn yn gwestiwn syml o amserlenni ymarfer a hyfforddiant.

"Y dyddiau hyn mae ymchwil blaengar gan brifysgol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi pob agwedd o chwaraeon Olympaidd - o faeth ac iechyd i offer, ffisiotherapi, adsefydlu ac wrth gwrs, perfformiad.

"Er enghraifft, gall y cyfuniad o ddylunio a thechnoleg fod yn hynod effeithiol i’r athletwyr gorau. Gall cynllun caiac neu sled fod yr un mor bwysig i athletwyr a'u sgiliau eu hunain a’i hyfforddiant."

Dywedodd Karen Rothery, Prif Swyddog Gweithredol, Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain: "Mae datblygiad chwaraeon yn ein prifysgolion yn cymell mwy o fyfyrwyr i gymryd rhan  mewn chwaraeon a gweithgareddau ac o fewn y cymunedau’r prifysgolion.

"Mae’r amrywiaeth o raglenni a’r gefnogaeth a datblygiad gweithlu o wirfoddolwyr a swyddogion yn golygu bod mwy o bobl yn cael y cyfle i fod yn weithgar a mwynhau llawer o’r manteision sy'n dod  yn sgil hynny."

Mae copïau o'r adroddiad llawn ar gael ar gais gan universitiesweek@fourcommunications.com ac yn ddiweddarach i'w lawrlwytho o www.universitiesweek.org.uk

AU13112