Rhythym Cuddwybodaeth Brydeinig
01 Mai 2012
Bydd yr Athro yr Arglwydd Hennessy o Nympsfield, yr Athro Attlee mewn Hanes Brydeinig Gyfoes yn y Frenhines Fari, Prifysgol Llundain, yn trafod gwybodaeth gudd Prydain am 6.00 o’r gloch yr hwyr ar Ddydd Iau y 3ydd o Fai yn yr Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Bydd yr Arglwydd Hennessy yn traddodi darlith flynyddol Canolfan Astudiaethau Gwybodaeth Gudd a Diogelwch Rhyngwladol y Brifysgol.
Pwnc y ddarlith fydd ‘Tasking and Using: the Coalition, the National Security Council, the Joint Intelligence Committee and the Rhythm of British Intelligence.’
Roedd yr Arglwydd Hennessy yn Athro Hanes Gyfoes yng Ngholeg Queen Mary and Westfield o 1992 tan 2000, can cael ei benodi’n Athro Attlee yn 2001.
Roedd yn un o sylfaenwyr Sefydliad ar gyfer Hanes Prydeinig Cyfoes a bu’n gweithio fel newyddiadurwr am ugain mlynedd ar The Times, The Financial Times a The Economist cyn ymuno â’r Frenhines Fari yn 1992.
Mae’r Arglwydd Hennessy yn banelydd cyson ar y rhaglen BBC1, Question Time a bu’n gyflwynydd cyson ar raglen Analysis BBC Radio 4 rhwng 1987 ac 1992.
Y mae hefyd wedi ysgrifennu nifer o lyfrau, ac yn eu plith mae, Cabinet (1986); Whitehall (1989); Never Again: Britain 1945-51 (1992); Hidden Wiring: Unearthing the British Constitution (1995); The Prime Minister: The Office and Its Holders since 1945 (2000); The Secret State: Whitehall and the Cold War (2002); Having it so good: Britain in the fifties (2006); Cabinets and the Bomb (2007); a The Secret State: Preparing For The Worst 1945 - 2010 (2010).
Mae ei gyfrol ddiweddaraf, Distilling the frenzy: Writing the history of one’s own times, yn cael ei chyhoeddi gan BiteBack.
Dywedodd yr Athro Len Scott: “Mae’r Arglwydd Peter Hennessy yn un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw Prydain yn yr astudiaeth o hanes gyfoes niwclear a gwybodaeth gudd. Mae ei ysgrifennu a’i ddarlledu wedi taflu goleuni ar lawer o’r agweddau mwyaf cyfrinachol o’r wladwriaeth Brydeinig, wrth iddi geisio symud o’r rhyfel oer i’r byd wedi 9/11. Dethlir ei lyfrau fel rhai awdurdodol a hawdd eu darllen.
“Bellach yn aelod rhyng-feinciol o Dŷ’r Arglwyddi, dychwela i Aberystwyth i draddodi’r ddarlith flynyddol ar gyfer y Ganolfan Astudiaethau Gwybodaeth Gudd a Diogelwch Rhyngwladol, ac i archwilio ymatebion gwahanol Whitehall i dirwedd cyfnewidiol diogelwch a chyfrinachedd.”
AU12712