Ar daith i Lundain
Chwith i'r dde: Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon, gydag aelodau o'r Harriers Dylan Jones (Llywydd), Rhiannon Anderson, Susanna Ditton, ac Alun Minifey o Swyddfa Gweithgareddau Urdd y Myfyrwyr.
27 Ebrill 2012
Bydd tîm o 15 o athletwyr o Glwb Rhedeg Harriers Prifysgol Aberystwyth yn teithio i Lundain ddydd Gwener nesaf (4 Mai) i gystadlu ym Mhencampwriaethau Athletau Awyr Agored Visa Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (British Universities and Colleges Sport - BUCS), a fydd yn cael eu cynnal dros dri diwrnod yn y Stadiwm Olympaidd newydd.
Y Pencampwriaethau fydd uchafbwynt Wythnos y Prifysgolion 2012, dathliad blynyddol ar draws y DG o brifysgolion a sefydliadau addysg uwch sy'n cael ei gynnal rhwng y 30ain o Ebrill a’r 7fed o Fai.
Thema Wythnos y Prifysgolion eleni yw’r ‘Gemau Olympaidd', a nod y trefnwyr, Universities UK a BUCS, yw cynyddu ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd o rôl eang ac amrywiol Prifysgolion y DG http://www.universitiesweek.org.uk/Pages/default.aspx
Mae’r atyniad o gystadlu mewn stadiwm a fydd ymhen ychydig fisoedd, yn gartref i athletwyr gorau'r byd, wedi bod yn gymhelliad gwych gan ddenu mwy na 100 o brifysgolion i gofrestru.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro April McMahon, "Fe fydd y profiadau o gymryd rhan yn y Stadiwm Olympaidd, rwy'n siŵr yn darparu llwyfan ardderchog ar gyfer ein hathletwyr i ddatblygu ymhellach yn y dyfodol. Rwy'n dymuno pob llwyddiant iddynt ac yn edrych ymlaen at y digwyddiadau chwaraeon eraill a fydd yn cael eu cynnal yn y Brifysgol yr wythnos nesaf. "
Eglurodd Llywydd yr Harriers Dylan Jones, sy’n fyfyriwr Meistr o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, "Mae hwn yn gyfle gwych i'r clwb gystadlu ar y llwyfan mwyaf a dylai ddarparu profiad anhygoel a fydd yn ysbrydoli ein hathletwyr i wella yn y dyfodol.
"Hoffem ddiolch i Urdd y Myfyrwyr am ein cefnogi gydag offer fel blociau sbrint a thrafnidiaeth i'r Pencampwriaethau."
Dywedodd Alun Minifey, o Swyddfa Gweithgareddau Urdd y Myfyrwyr, "Mae anfon ein hathletwyr i’r Stadiwm Olympaidd yn destun balchder a chyffro i bawb yma. Mae’n gyfle unwaith mewn oes ac rydym yn dymuno'n dda iddynt yn y gystadleuaeth.
"Er mai dim ond yn ddiweddar y cafodd y clwb ei adfywio, mae’r Harriers wedi datblygu o grŵp bach o athletwyr i glwb sydd nid yn unig yn cystadlu ar lefel genedlaethol, ond hefyd yn cyfrannu i'r gymuned drwy godi llawer o arian ar gyfer elusennau."
Bydd llawer o weithgareddau chwaraeon eraill hefyd yn cael eu cynnal yn y Brifysgol yn ystod Wythnos y Prifysgolion, gan gynnwys twrnamaint rygbi 7 bob ochr, cystadleuaeth cleddyfa ar ddydd Sadwrn y 5ed a dydd Sul y 6ed o Fai, a thwrnamaint pêl-rwyd hefyd ar y dydd Sul.
AU10812