Hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig
Yr Athro John Williams
27 Ebrill 2012
Mae’r Athro John Williams o Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth wedi ei wahoddiad i ymuno â phanel o bymtheg o arbenigwyr rhyngwladol sy’n delio a'r gyfraith a phobl hŷn gan Swyddfa Uwch Gomisiynydd y Cenhedloedd dros Hawliau Dynol.
Yn 2010 sefydlwyd gweithgor i gryfhau diogelu hawliau dynol pobl hŷn gan Gynulliad Cyffredinol Cenhedloedd Unedig.
Mae'r grŵp hwn yn edrych ar y fframwaith cyfreithiol rhyngwladol presennol er mwyn amddiffyn hawliau dynol, nodi unrhyw fylchau ac ystyried y ffordd orau i roi sylw iddynt.
Bydd yr Athro Williams yn aelod o'r Cyfarfod Arbenigol ar hawliau dynol pobl hŷn a fydd yn cyfarfod yn Efrog Newydd ar 29 Mai i 31 Mai 2012.
Ymhlith y materion i'w hystyried gan y grŵp arbenigol mae trais yn erbyn pobl hyn, discrimineiddio ar sail oedran, hawliau dynol a mwynhad o'r hawl i iechyd wrth fynd yn hŷn, gofal tymor hir ar gyfer pobl hŷn, urddas a phobl hŷn a'r system gyfiawnder.
Bydd papur a fydd yn adlewyrchu’r dadansoddiad yn cael ei baratoi. Bydd hwn yn sail i drafodaethau gweithgor y Cenhedloedd Unedig, ac ar gael i aelod wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig a rhanddeiliaid rhyngwladol eraill.
Mae’r Athro Williams wedi cyhoeddi'n helaeth ar faterion yn ymwneud â phobl hŷn a'r gyfraith. Mae'n eiriolwr cryf o’r gyfraith i amddiffyn pobl hŷn sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso.
Mae ei gyhoeddiadau yn archwilio'r ffordd y mae'r hawliau dynol pobl hŷn o fewn y gyfraith gwlad ac yn rhyngwladol, mewn perygl a pha mor aml mae pobl hŷn yn cael eu gwthio i'r cyrion.
Ef yw awdur canllaw a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Comisiynydd Pobl Hŷn yng Nghymru, Protection of Older People in Wales. Mae hwn yn ganllaw arloesol ar gyfer ymarferwyr yng Nghymru ac mae’n esbonio mewn fformat hawdd y fframwaith cyfreithiol presennol ar amddiffyn oedolion.
Mae’r Athro Williams wedi siarad ar bobl hŷn a'r gyfraith mewn cynadleddau rhyngwladol gan gynnwys y Gymdeithas Bar America, Cymdeithas Seicolegol Prydain, Cymdeithas Seicolegol Canada, ac Academi Ryngwladol y Gyfraith ac Iechyd Meddwl. Mae hefyd yn cyflwyno seminar blynyddol yn Adran Seiciatreg Ysgol Feddygol Harvard.
Dywedodd yr Athro Williams: "Mae anghenion poblogaeth sy'n heneiddio wedi creu her fyd-eang ac nid yn broblem fyd-eang. Mae angen i ni sicrhau bod hawliau dynol pobl hŷn ledled y byd yn cael eu diogelu a'u hyrwyddo.
"Rwy'n teimlo'n freintiedig iawn i gymryd rhan yng ngwaith y Cenhedloedd Unedig yn y maes hollbwysig o ddiwygio cyfraith ryngwladol.
"Mae'n galonogol bod Llywodraeth Cymru wedi addo i gyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn oedolion a byddaf yn falch iawn i rannu'r profiad Cymreig gyda chynrychiolwyr y gymuned ryngwladol."
AU12212