Hwb enfawr i bio-danwydd

Dr John Clinton-Brown.

Dr John Clinton-Brown.

26 Ebrill 2012

Mae datblygiad y cnwd biodanwydd addawol, Miscanthus, wedi cael hwb heddiw yn dilyn cyhoeddi cyllid ychwanegol o £6.4 miliwn dros bum mlynedd gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar gyfer rhaglen fridio integredig a chydweithredol.

Nod y rhaglen fridio yw cynhyrchu mathau masnachol newydd o Miscanthus sydd wedi ei optimeiddio er mwyn gwneud cyfraniad sylweddol i ddiogelwch ynni yn y dyfodol.

Mae datblygu cnydau fel ffynhonnell bio-ynni yn rhan bwysig o chwilio am ffynonellau ynni sydd yn economaidd dderbyniol i gymryd lle tanwyddau ffosil.

Mae Miscanthus, glaswelltyn cynhyrchiol iawn o Asia sydd angen ychydig o fewnbwn, yn blanhigyn hynod addawol ar gyfer datblygiad bio-ynni.

Bydd y rhaglen fridio newydd ar y cyd yn cysylltu ymchwil blaenorol ar Miscanthus yn IBERS (a gyllidwyd gan yr Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn 2004-2010 a Ceres Inc., cwmni hadau cnydau ynni integredig (ers 2007), gyda chyfres o brosiectau ymchwil a gyllidwyd gan y Cyngor Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) sydd yn sail i wyddoniaeth bridio.

Canlyniad hyn fydd un rhaglen fridio Miscanthus integredig sydd yn seiliedig ar wyddoniaeth gref, er mwyn datblygu mathau newydd fydd yn eu gwneud yn addas ar gyfer eu masnacheiddio.

Meddai Dr John Clifton-Brown, arweinydd y prosiect yn IBERS:
"Mae nodweddion ffisiolegol ardderchog Miscanthus yn golygu ei fod ymhlith y rhywogaethau planhigion mwyaf addawol ar gyfer cynhyrchu bio-más lignoselwlosig yn y DG a thu hwnt. Mae’r targedau ar gyfer gwella yn cynnwys nid yn unig cynnydd mewn cynhyrchiant ac ansawdd, ond hefyd mathau sydd yn seiliedig ar hadau a chyfraddau ymsefydlu cyflymach mwy cynhyrchiol tra’n costio llai i’w tyfu.

"Bydd yr arian LINK yma yn cyflymu datblygiad mathau masnachol newydd o Miscanthus er mwyn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ein targed i ddyblu cynnyrch ynni fesul hectar cyn 2030," ychwanegodd.

Mae'r cyllid ychwanegol sydd yn cael ei gyhoeddi heddiw yn cael ei ddarparu gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a'r Cyngor Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) fel rhan o'r cynllun cenedlaethol LINK.

Mae prosiectau LINK yn hyrwyddo cydweithredu academaidd/diwydiannol mewn ymchwil cyn-gystadleuol a dod â chwmnïau a phartneriaid mewn gwyddoniaeth at ei gilydd.

Bydd y prosiect hwn yn gweld Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth a Sefydliad Gwyddorau Biolegol ac Amgylcheddol Prifysgol Aberdeen yn cydweithio gyda Ceres, NFU, y tyfwr Ystadau Blankney, Biocatalysts sydd yn darparu’r ensymau er mwyn trosi’r bio-más yn fiodanwydd, ac E.ON. sydd yn llosgi bio-más ar gyfer cynhyrchu trydan.

Tanlinellodd Richard Flavell, PhD, FRS, CBE, Prif Swyddog Gwyddonol Ceres, y prif bartner diwydiannol, werth cydweithio rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus er mwyn dwyn datblygiadau i’r farchnad.

Dywedodd: "Mae angen mathau newydd o Miscanthus cynhyrchiol iawn er mwyn cyrraedd y targedau cynhyrchu a ragwelwyd gan y diwydiant bio-más yn y Deyrnas Gyfunol a gweddill y byd, ac rwy’n hyderus y bydd mwy o gydweithio rhwng y rhaglenni cyhoeddus a phreifat, sydd yn flaengar o ran bridio a’r wyddoniaeth sydd yn sail i’r gwaith, yn arwain at ddatblygu amrywiaethau gwell a llawer mwy cynhyrchiol na’r hyn a welir ar hyn o bryd. Gyda’n gilydd rydym yn llwyddo i wneud llawer mwy.”

AU12612