Seliau canoloesol

Sêl o'r ddeuddegfed ganrif.

Sêl o'r ddeuddegfed ganrif.

25 Ebrill 2012

Bydd arddangosfa bum mis newydd, a fydd yn dathlu ymchwil prifysgolion Aberystwyth a Bangor ar seliau canoloesol yng Nghymru rhwng 1200-1550, yn cael ei hagor yn swyddogol ar nos Wener 27 Ebrill yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Mae’r arddangosfa, Seliau yn eu cyd-destun: Cymu a’r Mers yn yr Oesoedd Canol, i’w gweld yn Oriel Hengwrt y Llyfrgell Genedlaethol tan ddiwedd mis Medi 2012.

Ariennir prosiect ‘Seliau yng Nghymru’r Oesoedd Canol’ (SiMeW), a drefnir gan Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad ag Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Bangor, gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).

Mae’r prosiect wedi rhedeg ers mis Medi 2009 ac y mae wedi recordio oddeutu 3,500 sêl ar draws Gymru a thiroedd y Mers er mwyn archwilio agweddau ar gymdeithas, economi, gwleidyddiaeth, crefydd, a mynegiannau hunaniaethol yr Oesoedd Canol mewn ffyrdd newydd.

Rhydd yr arddangosfa gyfle cynnar i gyflwyno ychydig o’r wybodaeth gyfoethog sydd i’w ganfod yn y seliau o’r Oesoedd Canol. Gall seliau daflu goleuni ar nifer o agweddau ar gymdeithas yr Oesoedd Canol, gan gynnwys hunaniaeth bersonol, mynegiadau o ffydd, portread o achyddiaeth a chylchrediad syniadau.

Esbonia’r Athro Phillipp Schofield, Prif Ymchwilydd y prosiect o Brifysgol Aberystwyth, “Mae sylw haneswyr wedi canolbwyntio’n aml ar seliau’r pendefigion mawrion, a cheir sampl dda o’r rhain yn yr arddangosfa. Yn eu plith y mae sêl Llywelyn ap Iorwerth, tywysog yng Ngogledd Cymru yn gynnar yn y 13eg ganrif, a sêl blwm Bulla Pabaidd y Pab Annwyl y III, hefyd yn y 13eg ganrif.  

“Ond, na ddiystyrer ychwaith, fel y gwna llawer, seliau y bobl o statws is, gan gynnwys dynion tref a gwragedd a thaeogion, gyda’u hamrywiaeth eang a rhyfeddol o fotiffau: ysgyfarnogod yn reidio ar gefn bytheiaid, ffigyrau grotesg, golygfeydd hela, ac yn y blaen.

“Cynrychiolir y rhain yn gyflawn a helaeth yn yr arddangosfa hefyd, ac yn y cyhoeddiad fydd yn gydymaith i’r arddangosfa.”

Dywedodd Dr Sue Johns, Cyd-ymchwilydd ar y prosiect o Brifysgol Bangor, "Roeddem yn falch bod y prosiect wedi cadarnhau'r hyn oeddem yn gobeithio cael gwybod - er bod llawer i'w ddysgu eto. Rwy'n gobeithio y bydd ymwelwyr â'r Arddangosfa yn cael mewnwelediad gwell i mewn i fywyd bob dydd yng Nghymru yn y canoloesoedd o’r hyn y gall y seliau ddatgelu.”

Ychwanegodd Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol Cymru, "Rydym yn hynod falch o fod yn rhan o'r gynhadledd a’r arddangosfa bwysig yma. Fel mae ein cyhoeddiad 2008, Images of Welsh Welsh History - Seals at the National Library of Wales gan David H. Williams yn amlinellu, mae ein casgliad ni o seliau yn rhan annatod i ddeall a gwerthfawrogi amrywiaeth y gymdeithas yng Nghymru dros yr oesoedd.

"Mae'r arddangosfa hefyd yn un a fydd yn cael ei fwynhau ar deilyngdod esthetig y seliau eu hunain ac am eu hadlewyrchiad pwysig, ac weithiau, rhyfedd o fywyd Cymreig."

Tra chanolbwyntia’r astudiaeth ar Gymru a thiroedd y Mers, bydd ystod eang SiMeW yn galluogi’r prosiect hwn i fod yn ffynhonnell ar gyfer astudiaethau’r dyfodol i ddefnydd seliau yn y DU a thu hwnt o ran methodoleg a’r cynnwys deongliadol sy’n ffrwyth yr ymchwil.

Mae seliau wedi’u defnyddio ar gyfer dilysiad ar draws llawer o wahanol ddiwylliannau, ac i warantu dogfennau ar draws Ewrop a gweddill y byd am ganrifoedd. Darpara seliau o’r Oesoedd Canol olwg arbennig ar ystyriaethau personol a sefydliadol ynghyd â chefnogaeth ar gyfer diddordebau rhyngddisgyblaethol i ymchwilwyr heddiw, a hynny ar bob lefel.

Fel rhan o ymgais i godi ymwybyddiaeth o’r ffynhonnell gyffrous ac amrywiol hon, bydd tîm y prosiect yn mynd â fersiwn teithiol o’r arddangosfa i nifer o archifau a chronfeydd yn ogystal â’r Eisteddfod Genedlaethol yn ystod yr haf.  

Bydd y tim hefyd yn chwilio am gyfleoedd i ryngweithio ag ysgolion lleol yn ystod y misoedd nesaf er mwyn amlygu potensial y deunydd hwn i roddi dealltwriaeth ddyfnach a llawnach o’n treftadaeth gyffredinol.

Aelodau’r tim prosiect yw yr Athro Phillipp Schofield o Brifysgol Aberystwyth, Cyd-Ymchwilydd Dr Sue Johns o Brifysgol Bangor, a’r ymchwilwyr Dr Elizabeth New a Dr John McEwan, sydd hefyd o Brifysgol Aberystwyth.

AU11712