Blodeuo neu beidio

Yr Athro Noel Ellis.

Yr Athro Noel Ellis.

24 Ebrill 2012

Mae math arbennig of blanhigyn sydd byth yn blodeuo wedi galluogi gwyddonwyr i adnabod genyn sydd yn angenrheidiol er mwyn ffurfio canghennau sydd yn eu tro yn cynnal blodau.

Mewn papur yn y cyfnodolyn Nature Communications (Dydd Mawrth 24 Ebrill), mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr sydd yn cynnwys yr Athro Noel Ellis o Brifysgol Aberystwyth yn son am sut y buont yn astudio planhigyn pys cellwyriadol, Pisum sativum, er mwyn adnabod y genyn sydd yn arwain at ffurfio canghennau sydd yn blodeuo.

Drwy gymharu’r planhigyn hwn gyda rhai oedd yn blodeuo, llwyddodd yr ymchwilwyr, wedi blynyddoedd o ymchwil manwl, i adnabod y genyn sydd yn rheoli datblygiad y canghennau yma ar blanhigion.

Mae’r Athro Ellis o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn Aberystwyth yn arbenigwr ar godlysiau (leguminosae), planhigion megis pys a meillion.

Mae o’r farn fod y gwaith hwn yn gosod yn eu lle y dulliau, yr egwyddorion a’r arbenigedd sydd eu hangen er mwyn defnyddio geneteg ar gyfer datblygu codlysiau sydd yn fwy cynhyrchiol a llesol i’r aymglchedd.

Esboniodd yr Athro Ellis; "Mae'r nifer a’r dosbarthiad blodau ar blanhigyn yn rhan bwysig o'i strategaeth goroesi, ac yma mae gennym yr ateb i ddeall hyn mewn codlysiau. Mae’r darganfyddiad hwn yn ein harwain at rai ffyrdd posib o chwilio am amrywiad yn y nifer a dosbarthiad blodau ar gnydau codlysiau, a gall hyn effeithio, er gwell neu er gwaeth, ar gynhyrchiant cnydau."

Roedd yr ymchwil gwreiddiol yn ymdrech ar y cyd rhwng un o’r awduron o Sbaen ac Awstralia a oedd yn astudio planhigion a oedd yn tyfu’n naturiol ond byth yn blodeuo. Roeddent yn credu y byddent yn gallu adnabod y genyn ar gyfer blodeuo.

Fodd bynnag, roeddent yn wynebu rhwystr mawr. Un enghraifft oedd ganddynt nad oedd yn blodeuo, ac nid yw gwyddoniaeth dda yn seiliedig ar un arsylliad.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd y tîm yn gallu gwrthbrofi eu rhagdybiaeth wreiddiol a nodi ail enyn cyfagos a oedd yn ofynnol ar gyfer datblygu'r canghennau hyn ar y planhigion blodeuol.

Cafodd y papur “VEGETATIVE1 is essential for development of the compound inflorescence in pea” ei gyhoeddi yn Nature Communications ddydd Mawrth 24 Ebrill 2012.

Mae rhestr lawn o awduron a'u chysylltiadau gyfer y papur hwn fel a ganlyn:

Ana Berbel1, *, Cristina Ferrándiz1, *, Valérie Hecht2, Marion Dalmais3, Ole S. Lund4, †, Frances C. Sussmilch2, Scott A. Taylor2, 5, Abdelhafid Bendahmane3, TH Noel Ellis5, 6, José P. Beltrán1, James L. Weller2 & Francisco Madueño

1 Instituto de Biología Molecwlar y Celular de Plantas, Consejo Superior de Investigaciones Científicas-Universidad de Valencia Politécnica, Valencia 46,022, Sbaen.

2 Ysgol Gwyddor Planhigion, Prifysgol Tasmania, Hobart, Tasmania 7001, Awstralia.

3 Unite de Recherche en Génomique Végétale, UMR INRA-CNRS, Rue Gaston Crémieux, Evry Cedex 91,057, Ffrainc.

4 Adran Bioleg Planhigion, Daneg Sefydliad y Gwyddorau Amaethyddol, Thorvaldsensvej 40, Frederiksberg C DK-1871, Denmarc.

5 Canolfan John Innes, Colney Lane, Norwich NR4 7UH, y DU.

6 Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth, Campws Gogerddan, Aberystwyth SY23 3EB, y DG.

† Cyfeiriad presennol: Adran Amaethyddiaeth ac Ecoleg, Prifysgol Copenhagen, Taastrup 2630, Denmarc.

Yr Athro Noel Ellis
Mae Dr Noel Ellis yn athro Geneteg Cnydau a Bioleg Ffenoteip yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fe sydd yn arwain ar thema Amrywiaeth Genom, ac ymunodd ag IBERS o Ganolfan John Innes yn Norwich yn gynnar yn 2011.

Pensaernïaeth Planhigion
Fe ymddangosodd y planhigion blodeuo cyntaf o gwmpas 120 miliwn o flynyddoedd yn ôl a'r codlysiau cyntaf - planhigion megis pys a meillion sy’n gosod nitrogen yn y ddaear - tua 60 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Wrth i blanhigion blodeuo esblygu, maent wedi datblygu pensaernïaeth sydd yn gynyddol gymhleth.

Ar y naill law mae tiwlipau yn syml, coesyn sengl ag un blodyn ar ei ben. Ar y llall mae’r helyglys, sydd i’w weld yn gyffredin ar dir diffaith ac ar hyd rheilffyrdd, yn llawer mwy cymhleth ei bensaernïaeth gyda llawer o flodau ar frig y planhigyn a phob un yn ar frigyn bychan sydd yn tyfu allan o’r prif goesyn a sioe ryfeddol o flodau pinc.

Mae'r gwaith a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn Nature Communications wedi nodi'r genyn sy'n caniatáu i’r canghennau hyn gael eu ffurfio, ac sydd yn arwain, yn ei dro, at ffurfio mwy o flodau.

Difidend Nitrogen
Gallai datblygu mathau newydd o godlysiau, sy'n trosglwyddo nitrogen yn y pridd, esgor ar fanteision sylweddol iawn i ffermwyr ac o fudd i'r amgylchedd.

Mae costau ynni cynyddol yn golygu bod cynhyrchu gwrtaith nitrogen yn gynyddol ddrud a gall y broses arwain at gynhyrchu ocsid nitraidd, nwy tŷ gwydr sydd oddeutu 300 gwaith yn fwy niweidiol i'r amgylchedd na Charbon Deuocsid. Mae amaethyddiaeth yn cyfrannu tua 75% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Ewropeaidd drwy’r llwybr hwn, gyda gwahanol amcangyfrifon yn rhoi hwn rhwng 12 a 25% o'n cynhyrchu nwyon tŷ gwydr cyfan.

Mae gan wyddonwyr o Aberystwyth hanes hir a nodedig o arloesi ym maes datblygu mathau newydd o feillion gwyn a choch. Mae'r rhain yn cynnwys AberAce, AberCrest, AberPearl, AberHerald, AberDai, AberConcord ac AberRuby.

AU12012