Rhodd Hoover
O'r Chwith i'r Dde: Kate Holmes o Elusen Canser y Prostad (ECP), Jonathan Roscoe, David Lunt, yr Athro Reyer Zwiggelaar a Leanne Fenwick, hefyd o ECP.
24 Ebrill 2012
Cafodd Prifysgol Aberystwyth hwb ariannol o £60,000 i ariannu prosiect ymchwil arloesol gyda'r nod o wella sut mae canser y brostad, y canser mwyaf cyffredin mewn dynion, yn cael ei ddarganfod.
Bydd y grant hael hwn, a roddir gan y cwmni gweithgynhyrchu nwyddau o Ferthyr Tudful, Hoover, a ddyfarnwyd gan Elusen Canser y Brostad, yn helpu i wella cywirdeb diagnosis canser y brostad.
Fe wnaeth yr Athro Reyer Zwiggelaar, y Prif Ymchwilydd ar y prosiect yn yr Adran Gyfrifiadureg yn y Brifysgol a'i fyfyriwr PhD, Jonathan Roscoe, gyfarfod gyda David Lunt, Cadeirydd Sefydliad Hoover, a chynrychiolwyr o Elusen Canser y Brostad, er mwyn cyflwyno’r arian hanfodol iddo’n ffurfiol ar ddydd Llun 23ain Ebrill.
Cynhaliwyd y cyfarfod yn y ganolfan ymchwil ar Gampws Penglais i drafod sut y bydd y gwaith ymchwil hwn yw helpu meddygon i weld yn gliriach maint a lleoliad y canser ac yn ei dro, eu galluogi i wneud penderfyniadau gwell am driniaeth.
Dywedodd yr Athro Zwiggelaar; "Rydym yn falch fod Elusen Canser y Brostad, gyda chefnogaeth Sefydliad Hoover, yn cefnogi'r gwaith ymchwil hwn i helpu i wella cywirdeb diagnosis canser y brostad ar gyfer y cannoedd o filoedd o ddynion sy’n cael eu heffeithio gan y clefyd.
"Trwy ariannu'r prosiect hwn maent yn ein galluogi i archwilio'r dulliau modelu cyfrifiadurol mwyaf diweddar tra’n ein cynorthwyo i feithrin gwyddonwyr canser y brostad y dyfodol ar yr un pryd."
Dywedodd David Lunt; "Yn y Deyrnas Gyfunol, mae 37,000 o ddynion yn derbyn diagnosis o ganser y brostad bob blwyddyn. Fodd bynnag, drwy ein gwaith gydag Elusen Canser y Brostad rydym yn gwybod bod angen gwella’r dulliau presennol o ddarganfod y salwch ar fyrder, os yr ydym am weld mwy o ddynion yn gwella o’r clefyd.
"Trwy ariannu'r prosiect arloesol yma mewn sefydliad ymchwil uchel ei barch, rydym yn gobeithio chwarae ein rhan i wella triniaeth canser y brostad am flynyddoedd i ddod. Ein harwyddair yw cenhedlaeth y dyfodol, ac rydym yn falch o fod yn buddsoddi yn nyfodol iechyd dynion."
Bydd yr arian yn talu am ysgoloriaeth PhD tair blynedd yn y Brifysgol, a fydd yn rhedeg tan yr Hydref 2014. Mae'r prosiect ymchwil hwn yw ymchwilio i'r syniad gwreiddiol o gyfuno canlyniadau cyseiniant magnetig (MRI) ac uwchsain (ultrasound) er mwyn darparu map cychwynnol manylach sydd yn dangos ble’n union mae’r tiwmorau a gwell syniad o’u maint.
Dywedodd Dr Kate Holmes, Pennaeth Rheoli Ymchwil Elusen Canser y Brostad a oedd hefyd yn bresennol yn y cyfarfod: "Un o'r heriau mwyaf mewn ymchwil canser y brostad yw’r gallu i wneud diagnosis cywir o’r clefyd.
"Credwn y bydd y prosiect arloesol yma ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi'r atebion sydd eu hangen ar feddygon er mwyn gwneud diagnosis mwy cywir a thrin tiwmorau i ddarparu budd gwirioneddol i ddynion yng nghamau cynnar eu clefyd. Rydym yn diolch i Sefydliad Hoover am weithio gyda ni i gefnogi’r astudiaeth hon ac maent yn disgwyl yn eiddgar am ei ganlyniadau."
Elusen Canser y Brostad
Canser y brostad yw'r canser mwyaf cyffredin mewn dynion diagnosis yn y DG. Bob blwyddyn, mae 37,000 o ddynion yn y DG yn cael diagnosis o ganser y brostad. Mae un dyn yn marw bob awr o ganser y brostad yn y DG.
Mae dynion Affricanaidd Caribïaidd dair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu canser y brostad na dynion gwyn.
Mae Elusen Canser y Brostad yn ymdrechu dros fyd lle nad yw bywydau yn cael eu cyfyngu mwyach gan ganser y brostad. Mae'r Elusen yn ymladd canser y brostad ar bob lefel - trwy gefnogi, ymchwil, gwybodaeth ac ymgyrchu.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ganser y brostad, ffoniwch Linell Gymorth Elusen Canser y Brostad ar 0800 074 8383 sy'n cael ei staffio gan nyrsys arbenigol ac ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a dydd Mercher o 7 - 9pm neu ewch i www.prostate-cancer.org.uk.
AU12112