Gwobr arlunio i fyfyriwr

16 Ebrill 2012

Mae Maria Hayes, myfyrwraig doethuriaeth mewn Celf Gain o Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth, wedi ennill cystadleuaeth arlunio ryngwladol sy'n cael ei dyfarnu i ddigwyddiadau darlunio arloesol ac apelgar.

Mae’r Wobr, am y gweithdy gorau sydd yn cael ei arwain gan artist, yn gallu rhedeg am fis ac yn rhan o’r ‘Big Draw’. Mae’r digwyddiad, sydd yn cael ei gynnal ar draws y Deyrnas Gyfunol, yn cynnig cyfleoedd i arlunio mewn amryw o arddulliau ac astudio amrywiaeth o wahanol wrthrychau.

Bu Maria yn cofnodi gweithdy 12 niwrnod gafodd ei gynnal yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth a chyflwynodd ei thystiolaeth i banel o arbenigwyr celf. Roedd y beirniaid yn chwilio am broseictau oedd yn ysbydoli ac yn denu’r gymuned leol i gyfrannu drwy ddefnyddio dulliau arloesol a chymell mwy o bobl o bob oed i ddarlunio. 

Roedd y cyflwyniad hwn yn gydweithrediad unigryw rhwng Maria, Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ac roedd yn canolbwyntio ar symud drwy ddefnyddio techneg uwchdaflunio fideo a ddatblygwyd gan Maria ei hun.

Esboniodd Maria; "Rwy'n falch iawn o gael derbyn y wobr bwysig hon a hoffwn ddiolch i fy nghydweithwyr yn yr Ysgol Gelf a Chanolfan y Celfyddydau am eu cefnogaeth a'u cymorth gyda'r prosiect hwn.

"Roedd y gweithdai a drefnais yn ystod y 12 niwrnod yn cynnwys perfformwyr, storïwyr, cerddorion a dawnswyr ar lwyfan. Gyda'r defnydd o uwchdaflunydd fideo, mi es i ati i dynnu llun o’u symudiadau gan wahodd y cyhoedd i wneud yr un peth. Roedd y cyfan yn llwyddiant gwirioneddol."

Eglurodd yr Athro John Harvey o’r Ysgol Gelf; "Mae nifer yr ymwelwyr a gymerodd ran yn y gweithdai wedi bod tu hwn i’n disgwyliadau, gan ddangos bod y digwyddiad hwn wedi dal dychymyg y cyhoedd a chreu awyrgylch gyffrous yn y Brifysgol. Hoffem longyfarch Maria ar ei llwyddiant, a dymuno'n dda iddi ar gyfer y dyfodol. "

Ychwanegodd Cath Serrell, Swyddog Addysg yng Nghanolfan y Celfyddydau; "Rydym yn falch iawn ein bod wedi gweithio gyda Maria wrth iddi ddatblygu ffordd o weithio sydd yn ennyn diddordeb pobl o bob math. Roedd y digwyddiad yn ein galluogi i gynnig y digwyddiad i ystod ehangach o bobl gan gynnwys aelodau o’r cyhoedd, myfyrwyr coleg, disgyblion ysgol uwchradd, aelodau o ganolfan ddydd sydd ag anableddau corfforol neu ddysgu, a phobl sydd yn mynychu ysbyty ddydd lleol.”

Cafodd y prosiect, Rhodd Cyfnewid Ynni, ei gynnal fel rhan o arddangosfa PhD Celfyddyd Gain Maria, Shedding Skins.

Noddir y gwobrau gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol Whatmore Barbara a Chymdeithas Genedlaethol y Cymdeithasau Celfyddydau Addurnol a Chain (National Association of Decorative & Fine Arts Societies - NADFAS). Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn Sefydliad Celf Courtauld, Llundain, ar 17 Mai 2012.

AU10112