Gwirfoddoli llwyddiannus
Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a’r gwirfoddolwyr llwyddiannus Emma Bradshaw, Ben Stevens a Kelly Jones.
11 Ebrill 2012
Mae tri myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill £150 i ddatblygu a chydlynu digwyddiad gwirfoddoli eu hunain sy'n ceisio dwyn ynghyd y gymuned leol.
Cafodd y gystadleuaeth, drefnwyd ar y cyd gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO), Prifysgol Aberystwyth ac Urdd y Myfyrwyr, ei chynnal er mwyn gwella sgiliau cyflwyno a chyflogadwyedd myfyrwyr.
Dyma’r tro cyntaf i’r gystadleuaeth gael ei chynnal. Roedd y gweithdy hanner diwrnod yn gofyn i'r myfyrwyr weithio mewn grwpiau, dyfeisio digwyddiad gwirfoddoli a chyflwyno'u cyflwyniad o flaen panel o feirniaid.
Yr enillwyr oedd Emma Bradshaw, myfyriwr Hanes yn yr ail flwyddyn, Ben Stevens a Kelly Jones, myfyrwyr Theatr, Ffilm a Theledu sydd hefyd ar eu hail flwyddyn. Digwyddiad gemau i blant a'r gymuned oedd eu syniad, a fydd yn cael ei gynnal yn Aberystwyth yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Eglurodd Carolyn Parry, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol sy’n gyfrifol am feithrin cysylltiadau â chyflogwyr, "Mae'r gweithdy hwn wedi ei gynllunio er mwyn pwysleisio pwysigrwydd gwaith gwirfoddol oherwydd y gystadleuaeth ffyrnig yn y farchnad swyddi a magu hunanhyder myfyrwyr.
"Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych iddynt gael profiad grŵp a chyflwyniad mewn amgylchedd diogel a chael adborth uniongyrchol gan banel o bobl brofiadol."
Dywedodd Catherine Moyle, Ymgynghorydd Gwirfoddoli Ieuenctid CAVO, "Ein nod yw hyrwyddo ymwybyddiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli yn yr ardal leol ac agor llygaid y myfyrwyr ynghylch a sut y gall gwirfoddoli weithio ar eu cyfer nhw."
Ychwanegodd Cathy Beckham o Urdd y Myfyrwyr, "Roedd y digwyddiad hwn yn llwyddiant mawr, ac roedd gweithio mewn partneriaeth â CAVO ac adran gyrfaoedd y Brifysgol yn sicrhau ein bod yn darparu rhaglen gyflawn i’r myfyrwyr gyda’r nod o ddatblygu eu sgiliau a’u cyflogadwyedd."
AU10012