Astudiaeth o famothiaid

04 Ebrill 2012

Mae gwyddonwyr o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cyfrannu at astudiaeth sy’n awgrymu na wnaeth y boblogaeth olaf o famothiaid gwlanog ddarfod o’r tir yn “anochel” o ganlyniad i fewnfridio a diffyg amrywiaeth genetig.

Gwnaeth gwyddonwyr o’r Deyrnas Unedig a Sweden a oedd yn gweithio ar y cyd ddefnyddio technegau a ddefnyddir fel rheol i ymdrin â safleoedd trosedd gynnal dadansoddiadau DNA o samplau a adferwyd o’r rhew parhaol ar Ynys Wrangel yng Nghefnfor yr Arctig.

Gwnaeth yr Athro Paul Shaw a Dr Niall McKeown o IBERS, ddatblygu’r dulliau DNA microloeren ar gyfer yr astudiaeth, y tro cyntaf i’r dechneg hon gael ei defnyddio ar gyfer mamothiaid.  Daeth yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Molecular Ecology, i’r casgliad ei bod yn fwy tebygol taw gweithgarwch pobl neu ffactorau amgylcheddol a oedd yn gyfrifol am ladd y boblogaeth olaf o famothiaid.

Er bod y mamothiaid yn gyffredinol wedi darfod o’r tir ac wedi diflannu o dir mawr Ewrasia a Gogledd America tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl, amcangyfrifir bod tua 500-1,000 o famothiaid wedi parhau i oroesi am 6,000 o flynyddoedd yn rhagor ar Ynys Wrangel sy’n 7,000 cilomedr sgwâr, ar ôl i’r ynys dorri i ffwrdd o dir mawr Rwsia o ganlyniad i gynnydd yn lefelau’r môr.

Mae’r gwyddonwyr hefyd yn dweud y gall eu hymchwil fod â goblygiadau i raglenni cadwraeth modern, oherwydd ei fod yn awgrymu y gall poblogaeth o 500 o unigolion fod yn ddigon mawr i gynnal amrywiaeth genetig dros gyfnodau maith o amser.

http://www.bbc.co.uk/news/science-environment-17457561