Grŵp ymchwil amgylchedd newydd

02 Ebrill 2012

Mae gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth a’r Llywodraeth wedi ymuno i droi Dyffryn Dyfi yn labordy ymchwil awyr agored a allai daflu goleuni newydd ar sut y mae gwahanol agweddau o’r amgylchedd yn gweithio gyda’i gilydd.

Mae rhai o feddylwyr praffaf Cymru ar yr amgylchedd wedi sefydlu Llwyfan Ymchwil Dalgylch a Choetiroedd Dyfi, a gafodd ei lansio wythnos ddiwethaf, i astudio sut y mae’r tir, y dŵr a’r aer rydyn ni'n ei anadlu yn cydweithio a sut rydyn ni'n cyd-fynd â nhw.

Mae arbenigwyr o Brifysgol Aberystwyth ac o Ymchwil Coedwig Cymru yn gobeithio y byddwn yn deall yn well yn y dyfodol egwyddorion rheoli'r amgylchedd drwy edrych ar sut y mae newid hinsawdd yn effeithio ar y tirlun a sut y mae pobl a bywyd gwyllt yn cyd-fynd â hynny.

Dywedodd yr Athro Mark Macklin, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Dalgylch a’r Arfordir yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear ym Mhrifysgol Aberystwyth, "Mae casglu gwybodaeth amgylcheddol, economaidd chymdeithasol yn dod yn gynyddol bwysicach er mwyn deall a rheoli tirluniau aml bwrpas ar adeg o newid amgylcheddol cyflym" sy’n gyd sylfaenydd y llwyfan ymchwil newydd.

"Bydd Llwyfan Ymchwil Dalgylch a Choetiroedd Dyfi yn berthnasol i astudiaethau eraill, graddfa dalgylch, yn y DU a thramor ac yn hynod o ddefnyddiol i'r corff sengl newydd sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru."

Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, John Griffiths, "Maen nhw’n rhoi bwyd, dŵr, ynni, pren a nifer fawr o fanteision economaidd i ni. Y rhain hefyd yw sylfaen tirluniau ac arfordir godidog Cymru a dyma’r cefndir i’n gweithgareddau hamdden.”

"Rwy’n croesawu sefydlu Llwyfan Ymchwil Dalgylch a Choetiroedd Dyfi ac rwy’n siŵr y bydd yn gwneud cyfraniad pwysig i ddyhead Llywodraeth Cymru i reoli’r amgylchedd yn fwy unol, fel sy’n cael ei ddangos yn Cynnal Cymru Fyw.

Fel rhan o’r prosiect, a fydd yn cynnwys y cyfan o Ddyffryn Dyfi, o flaen y dyffryn i lawr i'r arfordir, bydd holl goetir Llywodraeth Cymru sy'n cael ei reoli gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru yn cael ei ddynodi’n "Goedwig Ymchwil Cymru.”

Meddai’r Athro Hugh Evans, pennaeth Coedwig Ymchwil Cymru, "Bydd elfen coetir y prosiect yn rhan bwysig o lwyfan ymchwil graddfa ddalgylch a fydd yn adeiladu ar yr wybodaeth sydd eisoes yn bodoli ynghylch yr ardal amgylcheddol gyfoethog hon.

"Bydd y rhaglen ymchwil a monitro cyfun yn canolbwyntio'n gadarn ar wahanol swyddogaethau bioamrywiaeth, daeareg, geomorffoleg, hydroleg, priddoedd, llystyfiant, hinsawdd a gweithgareddau dynol.

"Rydyn ni’n gobeithio y bydd data o’r ymchwil sydd ar y gweill ac a ddaw yn y dyfodol yn ateb rhai cwestiynau allweddol, megis sut y mae coed yn dylanwadu ar y tirlun, gan gynnwys llif ac ansawdd dŵr, a bydd yn gosod sail gadarn o dystiolaeth ar gyfer rheoli ein hamgylchedd er budd pawb.

Yn ogystal â bod yn sail i strategaeth Cymru Fyw Llywodraeth Cymru, bydd y prosiect hefyd yn cysylltu ag Eco Dyfi, y fenter defnydd tir cynaliadwy gan ffermwyr a thirfeddianwyr.

Mae nifer fawr o gynefinoedd yn nyffryn Dyfi, o orgorsydd yn y mynyddoedd, coetiroedd a ffermdir yn is i lawr a chorsydd heli, fflatiau mwd a thwyni tywod ar yr arfordir.

Mae'r Dyffryn yn un o ddim ond dwy ardal yn y DU sydd wedi'u dynodi'n 'biosffer' gan Unesco (Sefydliad Addysgiadol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig).

Mae biosfferau, sy’n cael eu henwebu gan lywodraethau cenedlaethol, yn ardaloedd sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol ble mae pobl yn gweithio i gydbwyso cadwraeth bioamrwyiaeth gyda defnydd cynaliadwy.

Disgrifiodd Yr Athro John Harries, Prif Swyddog Gwyddonol Cymru ac Athro Arsylwi’r Ddaear yng Ngholeg Imperial Llundain, y fenter fel un "cyffrous a blaengar".

"Mae’r rhaglen hon yn berthnasol iawn i’r Corff Amgylcheddol Sengl sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru a fydd yn ymdrin â llawer o’r materion amgylcheddol brys y dydd, drwy ddefnyddio ein hamrywiaeth naturiol, ein dawn i gysylltu â’n gilydd, ac ein gallu i integreiddio data electronig."

AU9312