Marathon Pokémon y Brifysgol

(O’r chwith i’r dde), Kelly Jones, Alice Rourke, Ben Stevens, Josh Jordan, Philip Potter, Emma Bradshaw.

(O’r chwith i’r dde), Kelly Jones, Alice Rourke, Ben Stevens, Josh Jordan, Philip Potter, Emma Bradshaw.

02 Ebrill 2012

Bydd chwech myfyriwr dewr o Brifysgol Aberystwyth yn mynd ar helfa Bokémon 96 awr i godi arian er budd elusen, fel rhan o’u modiwl profiad gwaith ‘Ymchwil Cynhyrchiad ar Leoliad’ yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.
Cynhelir y digwyddiad gan Urdd Myfyrwyr Aberystwyth ar ddydd Mawrth 3 Ebrill 2012, am 7 yr hwyr.

Bwystfilod bychain ond grymus yw Pokémon sy'n byw yn y byd gêm fideo a grëwyd gan Nintendo yn y gyfres enwol o gartwnau, gemau, ffilmiau a chardiau masnachu.

Yn dilyn llwyddiant digwyddiad ffrwd-fyw ‘Pokémon4Japan’ y llynedd, a gododd £4,000 i helpu’r sawl oedd wedi dioddef oherwydd y daeargryn a’r tswnami yn Japan, bydd y marathon Pokémon eleni, a fydd yn dwyn y teitl “Full Restore”, yn codi arian ar gyfer Cronfa Argyfwng y Groes Goch Brydeinig.

Bydd pob rhodd yn caniatáu i’r cyhoedd ryngweithio’n uniongyrchol â’r gemau a chwaraeir.

Bydd ansawdd y rhyngweithiad yn amrywio, yn seiliedig ar faint y rhodd a gynigir; o alw am ddal Pokémon penodol, i ddewis pa ymosodiad fydd Pokémon yn cael defnyddio yng nghanol brwydr, i hyd yn oed enwi’r arwr a’r dihiryn ym mhob gem unigol.

Bydd y chwaraewyr hefyd yn derbyn ceisiadau yn y byd go iawn tra’n chwarae, felly os carech chi wylio rhywun yn hyfforddi eu Pikachu tra’n canu ‘Thunder Road’, neu weld person yn archwilio Kanto neu Johto tra’n bwyta bysed pysgod a chwstard, yna dyma’r marathon Pokémon i chi!

Gellir cynnig rhoddion, a gwylio’r ffrwd fyw, ar wefan Full Restore - www.fullrestore.co.uk . Gellir dilyn y digwyddiad hefyd ar Facebook, Twitter, Google Plus, a YouTube.

Dywedodd Dafydd Sills-Jones, cydlynydd y modiwl ‘Ymchwil Cynhyrchiad ar Leoliad’:
“Cynlluniwyd y modiwl ‘Ymchwil Cynhyrchiad ar Leoliad’ er mwyn rhoi cyfle i fyfyrwyr yr 2il flwyddyn feddwl am eu gyrfaoedd ar ôl gadael y Brifysgol. Mae’r ‘Marathon Pokémon’ yn ffordd arbennig o ddyfeisgar i ateb gofynion y modiwl, a charwn llongyfarch y myfyrwyr ar eu gwaith caled. Mae’n beth hynod annwyl ei fod yn brosiect sy’n gweithio er budd achos mor haeddiannol.”

Y llynedd, derbyniodd y digwyddiad sylw byd eang, nid yn unig ymysg dilynwyr Pokémon, yn enwedig yn Japan, Gogledd America ac Ewrop, ond hefyd ymhlith enwogion mawrion, gan gynnwys Edgar Wright, Amanda Palmer, a Justin Bieber.

Fel y dywedodd Catherine Beckham, Gweinyddwr Cymdeithasau a Gwirfoddoli yn Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth: “Roeddwn yn llawn edmygedd tuag at fentergarwch y myfyrwyr o Aberystwyth yn eu hymateb i’r Tswnami Japaneaidd y llynedd.

Eleni, ceisiais fy ngorau i sicrhau cefnogaeth iddynt oddi wrth Undeb Myfyrwyr Aberystwyth a’r Brifysgol trwy roddi cartref i’r prosiect rhyfeddol hwn, a’i hyrwyddo. Bydd Ben Stevens a’r tîm yn darlledu’n fyw o Undeb y Myfyrwyr a dymunaf bob llwyddiant iddynt gyda’r codi arian.”

Pan y gofynnwyd iddi am y prosiect, adleisiodd Alice Rourke, un o’r chwaraewyr, eiriau Catherine: “Mae’r digwyddiad y llynedd yn un sy’n agos iawn at fy nghalon gan iddo greu cymuned a theulu ar-lein. Teimlaf ein bod wedi gwneud gwir gysylltiad â’n cynulleidfa a gobeithiaf fydd hyn yn parhau eleni.”

A dywedodd Ben Stevens: “Fe’m hudwyd gan garedigrwydd a haelioni pawb sydd wedi cyfrannu a’n cefnogi ni trwy gydol y digwyddiadau. Gyda’u help nhw gobeithiwn godi mwy fyth o arian eleni dros yr achos da.”

Felly beth am ymuno â’r gymuned ar-lein a grëwyd gan Alice, Ben, Kelly Jones, Emma Bradshaw, Josh Jordan, a Philip Potter rhwng y 3ydd a’r 7fed o Ebrill 2012? Ni cheid gwell tîm, a chyda’ch help chi, mae’n nhw’n siŵr o’u dal nhw oll!

AU6712