Mynd i’r afael â diffyg protein
Meillion coch, porthiant â phrotein uchel.
30 Mawrth 2012
Mae gwyddonwyr Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yn chwarae’u rhan i fynd i’r afael â diffyg protein y Deyrnas Unedol (DU) drwy brosiect ymchwil pum mlynedd gwerth £2.15 miliwn.
Wrth i ddefnyddwyr symud o ddeiet sy’n seiliedig ar lysiau’n bennaf i ddeiet sy’n cynnwys mwy o gig a chynnyrch llaeth, rhagwelir y bydd y galw am brotein anifeiliaid yn codi 85% erbyn 2050, ar sail twf y boblogaeth a llewyrch cynyddol y gwledydd sy’n datblygu.
O ganlyniad, mae’r galw am broteinau llysiau fel bwydydd anifeiliaid wedi codi, ac mae’r DU’n wynebu diffyg ar hyn o bryd o ran y gallu i gynhyrchu protein llysiau domestig.
O ddibynnu’n gynyddol ar fewnforion, gall beri risgiau economaidd a risgiau cyflenwi sylweddol i’r DU, a hynny oherwydd effeithiau cyfun newid hinsawdd a’r galw cynyddol yn fyd-eang.
Hefyd, mae pryderon ynghylch cynaliadwyedd amgylcheddol cynhyrchu mwy o soia yn Ne America sydd, ar hyn o bryd, yn cyfrif am dros 90% o fewnforion protein yr UE.
Mae’n allweddol cynhyrchu mwy o brotein llysiau yn y DU i liniaru unrhyw risgiau economaidd a risgiau cyflenwi, ac i osod sylfaen gadarn er mwyn cyflenwi protein cynaliadwy yn y DU yn y dyfodol.
Dywedodd y Dr. Athole Marshall, Arweinydd Grŵp Bridio Planhigion Er Lles Cyhoeddus IBERS:
“Mae’r ymchwil hwn yn ceisio cynyddu faint o brotein sy’n seiliedig ar borthiant y gellir ei dyfu ar ffermydd yn y DU. Mae meillion coch yn borthiant â phrotein uchel, ond mae’r cynnyrch yn afreolaidd oherwydd diffyg ymwrthedd i ffwng Sclerotinia a nematod coesyn ac nid oes dull cemegol o’u rheoli. Byddwn yn defnyddio technegau moleciwlaidd i ddatblygu amrywogaethau â gwell ymwrthedd i’r plâu a’r clefydau hyn.
“Rydym hefyd yn ceisio sicrhau bod anifeiliaid fferm yn trosi protein planhigion yn brotein anifeiliaid mewn ffordd fwy effeithlon, drwy sicrhau bod mwy o weiriau siwgr uchel ar gael. Gwnaed cryn gynnydd o ran datblygu amrywogaethau rhygwellt amlflwydd â lefelau uchel o garbohydrad hydawdd mewn dŵr (a elwir hefyd yn wair siwgr uchel neu HSG). Mae’r nodwedd hon yn gwella’r modd y mae cilfilod yn defnyddio protein. O gynyddu cynnyrch had HSG, bydd yn haws cael gafael ar yr amrywogaethau gwell.”
Bydd y prosiect hwn yn defnyddio technegau moleciwlaidd i ddatblygu llinellau HSG uwch sy’n cyfuno’u perfformiad agronomaidd rhagorol â gwell cynnyrch had, gan gynyddu argaeledd y gweiriau hyn ac effeithlonrwydd y broses o gynhyrchu da byw yn y DU.
Mae’r prosiect hwn, sy’n cael ei ariannu ar y cyd gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg a gefnogir gan y llywodraeth, yn dwyn ynghyd yr unig gwmni cynhyrchu a chyfanwerthu had gwair porthiant a chodlysiau sydd â’i berchennog wedi’i leoli yn y DU (Germinal Holdings Ltd), prif sefydliad y DU sy’n ymwneud ag agronomeg, gwerthuso a throsglwyddo technoleg cnydau (NIAB-TAG) a phrif sefydliad ymchwil y DU ym maes geneteg a bridio planhigion porthiant (IBERS, Prifysgol Aberystwyth), a hynny mewn consortiwm a chanddo’r sgiliau a’r profiad masnachol i gyflawni’r prosiect.
Dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS:
“Mae hon yn enghraifft dda o’r modd y gall arbenigedd ymchwil IBERS sicrhau buddion ar sawl lefel wahanol – o ran yr amgylchedd, ffermwyr, y sector bwyd, iechyd dynol a’r cyhoedd yn gyffredinol.”
Meillion coch
Mae meillion coch (Trifolium pratense L.) yn godlysiau porthiant â phrotein uchel y gellir eu tyfu ar draws y DU, gan gynhyrchu 11-12t o ddefnydd sych/ha gyda chynnwys protein crai o hyd at 19%. Mae’r defnydd ohono wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd ei fod yn agored i Sclerotinia a nematod coesyn, sef pathogenau yn y pridd na ellir eu rheoli’n gemegol. Bydd y prosiect hwn yn defnyddio technegau moleciwlaidd i fewnosod ymwrthedd i Sclerotinia a nematod coesyn yng ngermplasm meillion coch elit a datblygu’r deunydd hwn i’r pwynt lle gellir ei luosi i’w gynhyrchu’n fasnachol. Bydd technegau moleciwlaidd yn cyflymu’r broses fewnosod ac yn lleihau’r gwerthusiad maes y bydd angen ei wneud i ffenoteipio’r germplasm uwch.
Rhygwellt amlflwydd
Gwnaed cynnydd sylweddol o ran datblygu amrywogaethau rhygwellt amlflwydd (Lolium perenne L.) â lefelau uchel o garbohydrad sy’n hydawdd mewn dŵr (HSG). Dangoswyd bod y nodwedd hon yn sicrhau gwelliant o 24% yn y modd y mae cilfilod yn defnyddio protein. Fodd bynnag, mae HSG yn gysylltiedig â chynnyrch had is na’r hyn sy’n dderbyniol, sy’n cyfyngu ar y defnydd ohono ar ffermydd. Bydd y prosiect hwn yn defnyddio technegau moleciwlaidd i ddatblygu llinellau HSG uwch sy’n cyfuno perfformiad agronomaidd da â chynnyrch had uwch. Cânt eu gwerthuso o ran ansawdd a chynnyrch porthiant, ac o ran yr had a gynhyrchir ar ddarnau bach o dir ac ar gaeau mwy yn ardaloedd tyfu had masnachol y DU. Byddwn yn bwrw ymlaen â’r llinellau sy’n darparu’r cyfuniad gorau o nodweddion agronomaidd ac atgynhyrchiol i’w gwerthuso ar raddfa fwy a’u datblygu’n fasnachol.
Bwrdd Strategaeth Technoleg
Corff llywodraethol o dan arweiniad busnes yw’r Bwrdd Strategaeth Technoleg. Mae’n mynd ati i greu twf economaidd drwy sicrhau bod y DU yn arwain y blaen o ran arloesedd byd-eang. O dan nawdd yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau (BIS), mae’r Bwrdd Strategaeth Technoleg yn dwyn busnesau, ymchwil a’r sector cyhoeddus ynghyd, gan gefnogi a hybu’r gwaith o ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau arloesol i ateb gofynion y farchnad, i fynd i’r afael â newidiadau mawr mewn cymdeithas ac i helpu i adeiladu economi’r dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.innovateuk.org.
AU3912