Herio troseddau gwledig
30 Mawrth 2012
Bydd Dr Jane Jones, darlithydd Troseddeg yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn rhoi’r cyfle i ffermwyr ar Ynys Môn i drafod eu profiadau o droseddau gwledig ar yr ynys.
Bydd yr astudiaeth hon, sydd wedi'i hariannu gan Gronfa Ymchwil y Brifysgol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn archwilio'r risg o trosedd sy’n wynebu ffermydd yn eu gweithrediadau busnes dyddiol, mewn cydweithrediad â Dr Tim Holmes o Brifysgol Bangor.
Dros y dyddiau nesaf, bydd 132 o ffermwyr yn derbyn holiadur cychwynnol ac yna dilynir hwnnw gan fwy o gyfweliadau manwl gyda sampl o gyfranogwyr parod.
Eglurodd Dr Jane Jones, "Canfuwyd o ymchwil flaenorol nad oedd trosedd fferm yn cael ei adrodd bob amser gan nad ydy ffermwyr yn sylweddoli yn syth eu bod wedi dioddef trosedd megis lladrad. Rydym yn gobeithio y bydd yr ymchwil yma yn rhoi llais i ffermwyr i siapio'r ffordd y mae troseddau cefn gwlad yn cael eu trin a’u gweld.”
"Byddwn yn ysgrifennu adroddiad ar gyfer gwneuthurwyr polisi lleol i sicrhau fod barn y ffermwyr ynghylch blaenoriaethau a phroblemau lleol yn cael eu hystyried. Y nod yw ehangu'r astudiaeth hon ledled Cymru yn y dyfodol. "
Mae'r astudiaeth yn dilyn arolwg fechan a gynhaliwyd Dr Jane Jones yn 2008 ar Ynys Môn gyda mewnbwn oddi wrth asiantaethau a sefydliadau lleol. Ystyrid difaterwch ffermwr tuag at drosedd yn fater pwysig a bu i’r astudiaeth hefyd chwarae rhan yn y broses o gyflwyno cynllun Gwarchod Ffermydd ar Ynys Môn.
AU6312