Darganfod tornado anferthol
29 Mawrth 2012
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi darganfod tornados solar sydd sawl gwaith yn fwy na’r Ddaear ar wyneb yr haul.
Bydd Dr Xing Li a Dr Huw Morgan o’r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg yn cyflwyno ffilm o un o’r tornados yn y Cyfarfod Astronomeg Cenedlaethol 2012 ym Manceinion heddiw, dydd Iau 29 of Fawrth 2012.
Canfuwyd y tornado solar trwy ddefnyddio’r Telesgop Ymgasgliad Delweddu Atmosfferig (AIA) ar fwrdd y lloeren Arsyllu Deinameg Solar (SDO).
“Dyma’r tro cyntaf, efallai, i dornado solar anferthol gael ei ffilmio gan ddelweddydd. Cynt, canfuwyd tornados solar llai gan fy lloeren SOHO i. Ond ni ffilmiwyd hwynt,” dywed Dr. Xing Li, o Brifysgol Aberystwyth.
Ychwanega Dr. Huw Morgan, cyd ddarganfyddwr y tornados solar, “Mae’n rhaid fod y tornado unigryw a rhyfeddol hwn yn chwarae rôl wrth ddechrau stormydd solar bydol.”
Gwelodd yr AIA nwyon tra phoeth oedd mor gynnes â 50 000 – 2 000 000 Kelvin yn cael eu sugno o wraidd strwythur dwys o’r enw Prominence, cyn troelli i fyny i mewn i’r atmosffer uchel a theithio oddeutu 200 000 cilomedr ar hyd llwybrau heligol am gyfnod o oddeutu tair awr. Arsyllwyd y tornados ar y 25 o Fedi 2011.
Mae’r nwyon poeth yn y tornados yn teithio ar gyflymderau mor uchel â 300,000 cilomedr yr awr. Gall cyflymderau nwyon mewn tornados daearol gyrraedd cyflymderau o 150 cilomedr yr awr.
Yn aml, bydd tornados yn digwydd wrth wraidd allyriadau mas coronaidd. Pan deithiant tua’r Ddaear, gall yr allyriadau mas coronaidd hyn achosi cryn ddifrod i amgylchedd gofod y ddaear, neu i loerennau, neu hyd yn oed ddinistrio’r grid trydan.
Llusga’r tornados solar feysydd magnetig troellog a cheryntau trydanol i’r atmosffer uchel. Mae’n bosibl fod y meysydd magnetig a’r ceryntau yn chwarae ran allweddol wrth yrru’r allyriadau mas coronaidd.
Lansiwyd yr SDO ym mis Chwefror 2010. Mae’r lloeren yn cylchynu’r Ddaear mewn cylchdaith gylchol sy’n gydamserol â chylchdaith y Ddaear ar uchder o 36,000 cilomedr. Monitra’r amrywiadau solar cyson yn barhaus er mwyn galluogi i wyddonwyr feithrin gwell dealltwriaeth am achos y newid ac, yn y pen draw, fedru darogan tywydd y gofod.
Gellir lawrlwytho delweddau llonydd ac animeiddiadau o’r tornado solar o: http://users.aber.ac.uk/xxl/tornado.htm
Arsyllwyd ar y tornado trwy’r telesgop AIA ar fwrdd Arsyllfa Deinameg Solar NASA: Credid: NASA/SDO/AIA/Aberystwyth University/Li/Morgan/Leonard
AU9712