Y Brifysgol yn helpu ffermwyr

27 Mawrth 2012

Mae academyddion yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi dyfeisio system newydd a fydd yn helpu ffermwyr Cymru i benderfynu sut a phryd i gael y prisiau gorau am eu hŵyn.

Bydd y gyfrifiannell newydd yma sydd ar-lein, a gynhyrchwyd gan Brifysgol Aberystwyth i Hybu Cig Cymru (HCC), yn helpu ffermwyr Cymru i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am eu da byw. Mae hyn wedi cael ei ddatblygu diolch i ymchwil Dr Nishikant Mishra, Darlithydd Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi (SMB), ac arbenigedd Wyn Morris, Cymrawd Addysgu mewn Rheolaeth yn y Brifysgol.

Eglurodd Mr Morris, "Mae'r gyfrifiannell yn caniatáu ffermwyr i ystyried yr amser gorau i wyna o ystyried eu hamgylchiadau unigol a’u hadnoddau, gall hyn olygu y gallai newid bach yn y tymor ŵyna arwain at newid sylweddol mewn proffidioldeb ac effeithlonrwydd adnoddau.

"Rydym yn awr yn y broses o ddatblygu offer sy’n gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth bellach i ffermwyr a'r gadwyn gyflenwi amaeth cyfan. Rydym yn ddiolchgar i HCC am eu cydweithrediad ar y prosiect a gobeithiwn y bydd cydweithio pellach yn digwydd yn y dyfodol. "

Mae ymchwil Dr Mishra yn canolbwyntio ar fodelu mathemategol, a datblygu heuristics ac algorithmau ar gyfer problemau gweithgynhyrchu, cynllunio ac amserlennu. Roedd Wyn Morris yn ymchwilydd yn IBERS cyn ymuno â SMB a hefyd yn rhedeg ei fferm ei hun. Mae'r gyfrifiannell yn ganlyniad ymchwil o'r radd flaenaf a dealltwriaeth fanwl o economi fferm.

"Gall didolborthi ŵyn yn gynnar yn y tymor er mwyn gallu eu gwerthu pan fo'r prisiau ar eu gorau fod yn fuddiol a manteisiol yn ariannol - os yw'r enillion a ragwelir yn uwch na'r costau perthynol," meddai Swyddog Gweithredol Prosiectau Hybu Cig Cymru, Dewi Hughes.

"Fodd bynnag, os na fydd yr ŵyn yn cael eu gwerthu ar yr adeg gywir, gall didolborthiant fod yn ddewis drud. Mae HCC wedi datblygu dyfais cyfrifo porthiant wyn ar ein gwefan fel bod ffermwyr defaid yn gallu penderfynu a fyddai'n fuddiol yn ariannol i ddidolborthi eu hŵyn.”

"Mae'r pris a ddangosir ar y ddyfais gyfrifo yn seiliedig ar brisiau ŵyn 2011. Er nad yw'n ystyried y costau sy'n gysylltiedig â'r ddwy system - fel llafur, costau milfeddygol a meddyginiaethau a dibrisiad cyfarpar bwydo arbenigol - credwn y bydd yn ddyfais newydd bwysig dros ben i ffermwyr defaid," meddai Mr Hughes.

Cynhyrchwyd y cyfrifwr gan yr Ysgol Rheolaeth a Busnes ar gyfer HCC gydag arian a gafwyd gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 - 2013.
Mae ar gael ar wefan HCC - http://www.hccmpw.org.uk/xml/calculator.htm

AU7712