Flux 2012
Tîm FLUX Prifysgol Aberystwyth 2012.
27 Mawrth 2012
Bydd tîm o chwe myfyriwr o Aber yn cystadlu am y teitl ‘Pencampwyr Cenedlaethol FLUX’ yn FLUX 2012, sef y prif gystadleuaeth Menter rhwng prifysgolion ym Mhrydain, rhwng 27- 28 Mawrth yn Llundain.
Bydd y tîm yn treulio 36 awr yn cystadlu i ddatrys problemau busnes go iawn, gydag arbenigwyr o rai o gwmnïoedd mwyaf deinamig Prydain yn eu beirniadu wrth iddynt wneud cyflwyniadau a chymryd rhan mewn heriau yn null The Apprentice a Dragon’s Den.
“Mae’r gystadleuaeth yn gyfle ardderchog i fyfyrwyr feithrin sgiliau menter a chyflogadwyedd, ennill profiad a rhwydweithio â darpar gyflogwyr” esboniodd Tony Orme, Rheolwr Menter.
I gael lle yn y tîm, heriwyd y myfyrwyr i lunio cysyniad busnes wedi’i seilio ar senario penodol, a chyflwyno’r cysyniad hwnnw i’r panel. Fe wnaeth pedwar myfyriwr ar bymtheg, o wahanol adrannau o’r Brifysgol, gymryd rhan yn yr her.
Bydd y tîm, a gefnogir yn y digwyddiad gan ddau o’n Myfyrwyr Menter ar Leoliad Gwaith, Warwick Wainwright a Xiang Li, yn cynnwys yr aelodau canlynol:
Alex Shone (Adran Gyfrifiadureg), Andrius Kantrimaricius, Anneka Page, Danielle Bentley, James Wheldon a Peter Hamilton-Gray (Ysgol Rheolaeth a Busnes).
Trefnir FLUX 2012 mewn partneriaeth â’r Working Knowledge Group a'r National Association of College and University Entrepreneurs (NACUE); eleni cynhelir y gystadleuaeth yng Ngholeg Ravensbourne yn Llundain.
AU8612