Cymharu acenion y Saesneg

26 Mawrth 2012

Fe fydd Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro April McMahon, yn rhoi darlith Syr D O Evans ar gyfer 2012 ac yn cymharu acenion Saesneg, y gorffennol a'r presennol.

Bydd y ddarlith, sy'n agored i bawb, yn cael ei chyflwyno ar ddydd Mercher, 28ain o Fawrth am 6pm ac yn cael ei chynnal yn y brif neuadd yn Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol.

Trafod os ydy ieithyddiaeth yn gallu datblygu dulliau ar gyfer cymharu acenion a mesur y gwahaniaethau rhyngddynt fydd yr Athro McMahon.
Dywedodd yr Athro McMahon, "Weithiau mae'n ymddangos bod y ffordd yr ydym yn siarad yr un mor bwysig รข'r hyn yr ydym yn ei ddweud, felly mae deall sut mae acenion yn wahanol i'w gilydd a sut maent yn newid yn ddiddorol ar gyfer cynulleidfa gyffredinol ag ar gyfer ymchwilwyr academaidd.

“Rydym hefyd yn ffodus iawn ein bod yn gwybod cymaint am hanes y Saesneg, a byddaf yn sôn am sut y gallwn ailadeiladu'r ffordd roedd pobl yn siarad amser maith yn ôl a gwneud cymariaethau gyda’r Saesneg modern heddiw.”

Ieithyddiaeth yw disgyblaeth academaidd yr Is-Ganghellor. Mae ei hymchwil wedi canolbwyntio ar gymariaethau rhwng gwahanol dafodiaethau Saesneg, gyda diddordeb arbennig mewn Sgoteg, sut mae ieithoedd yn newid, astudiaethau amlddisgyblaethol o’r berthynas deuluol rhwng ieithoedd, a goblygiadau ieithoedd mwyafrifol tresmasol.

Penodwyd yr Athro McMahon ym mis Ionawr 2011 ac fe ymunodd a’r Brifysgol mis Awst y llynedd o Brifysgol Caeredin lle'r oedd yn Is-brifathro Cynllunio, Adnoddau a Pholisi Ymchwil.

Yn awdur ac yn gydawdur nifer o gyfrolau, ac yn gyd-olygydd y cylchgrawn English Language and Linguistics, mae’r Athro McMahon yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Caeredin ac o’r Academi Brydeinig.

Ychwanegodd yr Athro McMahon; "Mae darlithoedd cyhoeddus yn rhan hanfodol o ymgysylltu gyda'r gymuned leol, ac yr ydym yn rhoi cynnig ar leoliadau gwahanol, cyhoeddusrwydd a threfniadau ar gyfer ein darlithoedd eleni, i ddangos i bobl leol ein bod yn gallu estyn croeso cynnes i bawb i’r Brifysgol - a gobeithio, noson ddiddorol.”

AU7812