Gwersylloedd astudio technoleg
Yr arlunydd Rain Ashford yn gwisgo un o’i chreadigaethau.
23 Mawrth 2012
Bydd pobl ifanc o bob cwr o ganolbarth Cymru yn mwynhau cael profiad ymarferol gyda’r Gwersylloedd Astudio Technoleg Gwisgadwy a Robotiaid Hwylio a gynhelir dros dri diwrnod yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth yn ystod wythnos gyntaf gwyliau'r Pasg – dydd Llun 2 Ebrill tan ddydd Mercher 4ydd Ebrill.
Dyma’r ail Wersyll Astudio mewn cyfres o weithdai rhad ac am ddim a redir gan y tîm Technocamps, sy’n rhan o Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, ac sydd yn cynnig cyfle i bobl ifainc rhwng 11-19 oed ddatblygu eu sgiliau cyfrifiadurol y tu hwnt i diriogaeth arferol y sgrin a’r allweddell.
Cyflwynir y cyfranogwyr i ficro reolyddion rhaglennu (cyfrifiaduron bychain sglodyn sengl) gan ddefnyddio ystod o synwyryddion electronig. Bydd y ddau Wersyll Astudio’n canolbwyntio ar adeiladu 'system reoli' sy’n seiliedig ar y system boblogaidd Arduino.
Bydd y Gwersyll Astudio Technoleg Gwisgadwy yn rhoi cipolwg ar sut mae technoleg yn cael ei ymgorffori i mewn i ddillad ac ategolion. Gosodir synwyryddion ar neu tu fewn i ddillad fel bod, er enghraifft, y dechnoleg yn ymateb i symudiadau’r sawl sy’n eu gwisgo.
Bydd Sophie McDonald a’r arlunydd Rain Ashford, sydd yn integreiddio technolegau synhwyro mewn dillad, yn arwain y Gwersyll Astudio Technoleg Gwisgadwy.
Mae Rain yn awyddus i’r plant fod yn greadigol gyda thechnoleg: “Yn y Gwersyll Astudio, bydd pobl ifanc yn dylunio ac yn creu eu darnau eu hunain o dechnoleg ryngweithiol gwisgadwy.”
Bydd y Gwersyll Astudio Robotig yn rhoi cipolwg ar sut y defnyddir technoleg i gynllunio peiriannau ar gyfer y dŵr. Bydd robotiaid hwylio’n dynwared gweithredoedd morwr dynol trwy addasu hwyliau, a llywio cychod tir mewn ymateb i'r gwynt ac i’r cyfeiriad teithio angenrheidiol.
Mae Dr Mark Neal, yr academydd sy’n arwain y Gwersyll Astudio Robotiaid Hwylio, yn awyddus i gael cymaint o bobl ifanc yn y rhanbarth ac sy’n bosibl i ymgysylltu â chyfrifiaduron.
Dywedodd Dr Neal, “Mae defnyddio robotiaid yn rhoi cyflwyniad hwyliog a gwerth chweil i’r plant ar y grefft o raglenni, a chânt foddhad ychwanegol o weld y canlyniadau yn gweithio’n ystyrlon yn y byd go iawn.”
Bydd pobl ifanc hefyd yn cael gweld yr offer ymchwil roboteg mwyaf modern yn labordy’r Brifysgol – gan gynnwys MOOPS (robotiaid hwylio bychain) ac Idris, robot maint car!
Bydd y ddau weithdy tridiau yma’n rhedeg o ddydd Llun 2 Ebrill tan ddydd Mercher 4ydd Ebrill, 10-3pm.
Mae llefydd yn brin a dosberthir hwynt ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu, felly os oes gennych ddiddordeb cofrestrwch fan hyn http://sailingrobotsbootcamp.eventbrite.co.uk neu fan hyn http://wearabletechnologybootcamp.eventbrite.co.uk.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â Lisa Fisher ar 01970 622454 neu e-bostiwch lisa.fisher@technocamps.com.
Gwersylloedd Astudio Technocamps
Mae’r Gwersylloedd Astudio yn weithdai tri diwrnod rhad ac am ddim i bobl ifanc rhwng 11 a 19 oed sydd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Mae Technocamps yn brosiect gwerth £6 miliwn o dan arweiniad Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth gyda Phrifysgolion Aberystwyth, Bangor a Morgannwg sy'n darparu sesiynau dyddiol ac wythnosol i bobl ifanc 11-19 oed ar ystod o bynciau cyfrifiadurol cyffrous sy'n seiliedig ar raglennu, roboteg, cryptograffeg, animeiddio ac ati.
Mae'r rhaglenni £3.2bn Cronfeydd Strwythurol 2007-2013 yng Nghymru yn cynnwys y rhaglenni Cydweithrediad ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd (olynydd Amcan 1), a Chystadleurwydd Rhanbarthol a Chyflogaeth ar gyfer Dwyrain Cymru. Mae'r rhaglenni yn cael eu darparu drwy Lywodraeth Cymru â’r nod o greu cyflogaeth a hybu twf economaidd.
AU8012