Cyn-fyfyriwr yn ysbrydoli
Alexandra Gencheva o’r Ysgol Reolaeth a Busnes yn cyflwyno sgarff y Brifysgol i George Ashworth o Fanc Aldermore.
23 Mawrth 2012
Ar y dydd pan oedd Canghellor y Trysorlys yn cyflwyno Cyllideb 2012, roedd myfyrwyr yn Ysgol Reolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth yn derbyn arweiniad meistrolgar ar fasnach gan y cyllidwr blaenllaw George Ashworth.
Yn raddedig mewn economeg o Brifysgol Aberystwyth, mae George yn Rheolwr-gyfarwyddwr ar Gyllid Asedau ym Manc Aldermore, un o bum sefydliad ariannol yn unig sydd wedi cytuno i weithredu Cynllun Gwarant Benthyciadau Cenedlaethol newydd Llywodraeth y DU.
Mynychodd un deg chwech myfyriwr Ysgol Reolaeth a Busnes weithdy’r bore oedd yn ffocysu ar archwilio gyrfa George yn y sector ariannol er mwyn cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o nodweddion cyflogadwyedd hanfodol a sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer llwyddiant.
Gyda’r pwyslais ar ddeall y gwir sialensiau sy’n wynebu busnesau, gosodwyd her i’r myfyrwyr eu hunain; rhaid oedd iddynt baratoi datrysiad creadigol i sefyllfa fusnes gyfredol ym Manc Aldermore.
Bydd y tîm buddugol, sef Nathan Mears, Alexandra Gencheva, Xiang Li a Helen Froelich, nawr yn treulio dydd ym mhencadlys Banc Aldermore yn Reading, ymweliad a fydd yn cynnwys llety dros nos mewn gwesty, dan nawdd y cwmni.
Wedi’r gweithdy, rhoddodd George gyflwyniad ar Fusnes Llwyddiannus mewn Adeg Anodd fel rhan o’r Gyfres Ddarlithoedd gan Raddedigion Amlwg sy’n cael ei threfnu ar y cyd gan yr Ysgol Reolaeth a Busnes a Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol.
Tra’n siarad am ei ddychweliad i Aberystwyth, dywedodd George:
“Mae’n llawenydd imi ymwneud â’r Ysgol Reolaeth a Busnes ac i gael fy ngwahodd yn ôl i’m hen brifysgol i roi cyflwyniad ac i rannu rhywfaint o’r profiadau a ddaeth i’m rhan dros y blynyddoedd. Mae’n bleser medru rhoi rhywbeth yn ôl i’r Brifysgol.
“Mae’r dydd wedi bod yn agoriad llygad imi. Fe’m llenwyd gan edmygedd gan safon gyffredinol y myfyrwyr a dymunol iawn oedd gweld gwneuthuriad rhyngwladol y grŵp. Maent wedi dangos dealltwriaeth wych o faterion busnes ac o’r sefyllfa economaidd bresennol yn gyffredinol.”
Dywedodd Steve McGuire, Athro Rheolaeth a Chyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Busnes Rhyngwladol a Pholisi Cyhoeddus yn yr Ysgol Reolaeth a Busnes; “Mae Prifysgol Aberystwyth yn ffodus fod ganddi raddedigion hynod o lwyddiannus sy’n gweithio mewn swyddi allweddol o fewn diwydiant a’r llywodraeth ac mae’n wych medru croesawi rywun fel George yn ei ôl i Aberystwyth i rannu ei brofiadau.
“Mae ei waith gyda’r myfyrwyr wedi dod a rhai o’r sialensiau sy’n wynebu busnesau yn y byd go iawn yn fyw iddynt, ac y mae wedi dangos iddynt ddefnydd ymarferol y theorïau y maent wedi bod yn eu hastudio. Bu hefyd yn gyfle gwych i’r myfyrwyr gael arddangos eu talentau, eu doniau, a’u brwdfrydedd ger bron rhywun sydd ar frig ei ddewis faes.”
Dywedodd Carolyn Parry, Is Gyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol:
“Nid oes modd gorbwysleisio pwysigrwydd rhoi cyfle i’r myfyrwyr gael cwrdd â, a chael dysgu oddi wrth, gyn-fyfyriwr mor llwyddiannus â George Ashworth. Mae cael cyn-fyfyrwyr amlwg sy’n gyflogwyr i ddod i gyfrannu at y cwricwlwm yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i ddealltwriaeth y myfyrwyr o’r hyn sydd angen iddynt eu gwneud er mwyn sicrhau llwyddiant yn y dyfodol.
“Mae stori George yn amlwg yn ysbrydoliaeth ac y mae wedi galluogi’r sawl a fu’n rhan o’r sesiwn hon heddiw i gydnabod y talentau sydd oddi mewn iddynt.”
AU8712