Datgelu “stubble plains” Keats

Rhan o’r ysgythriad ‘View from St. Giles's Hill’, a gyhoeddwyd yng nghyfrol Charles Ball, An Historical account of Winchester, with descriptive walks (Winchester, 1818), a seiliwyd ar aquatint gan C. F. Porden.

Rhan o’r ysgythriad ‘View from St. Giles's Hill’, a gyhoeddwyd yng nghyfrol Charles Ball, An Historical account of Winchester, with descriptive walks (Winchester, 1818), a seiliwyd ar aquatint gan C. F. Porden.

22 Mawrth 2012

Mae darganfyddiadau archifol gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn awgrymu fod byd arall yn gorwedd o dan mwynder hydrefol un o hoff gerddi’r genedl, pryddest John Keats “To Autumn”, byd o argyfwng bancio, byd o brisiau esgynnol, a byd lle mae’r gweithwyr yn streicio.

Awgryma’r dogfennau, nas gwelwyd mohonynt o’r blaen, y dylid addasu lleoliad traddodiadol y “stubble-plains” enwog yn “To Autumn”.

Credid am amser maith mai’r llifddolydd hardd ar ochrau’r Afon Itchen oeddent, ond dadleua’r ymchwilwyr fel arall, gan honni fod caeau ŷd Keats yn fwy tebygol o fod ar lethrau gorllewinol Bryn St Giles, sy’n edrych dros Winchester o’i begwn dwyreiniol.

Efallai fod y cenedlaethau o selogion Keatsaidd a fu’n dilyn y “Keats Walk” wedi cael eu camarwain gan astudiaethau ysgolheigaidd blaenorol.

Pan gyrhaeddodd Keats Winchester yn haf 1819, gwnaeth hynny mewn cyfnod o densiwn cynyddol oherwydd prisiau ŷd ac amodau gwaith amaethyddol.

Roedd bancwyr oedd wedi troi’n dirfeddianwyr yn prysur feddiannu tir oedd yn cynhyrchu grawn yn ardal Winchester er mwyn ecsploetio’r prisiau uchel am fara a’r digoned sydyn o weithwyr (gan fod dynion yn dychwelyd o’r Rhyfeloedd Napoleonaidd ar y pryd).

Roedd llethrau Bryn St Giles wedi cael eu troi’n ddiweddar i gynhyrchu ŷd – a’r caeau hyn oedd y rhai fyddai Keats wedi’u gweld pan ddringodd i’r gyrchfan ymwelwyr boblogaidd. Mae cae enwocaf Lloegr bellach yn gorwedd o dan faes parcio aml-lawr.
 
Cyhoeddir y papur Keats, ‘To Autumn’, and the New Men of Winchester yn y rhifyn cyfredol o The Review of English Studieshttp://res.oxfordjournals.org/content/early/2012/03/12/res.hgs021.full?etoc.

Yr Athro Richard Marggraf Turley a Dr Jayne Archer o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, a’r Athro Howard Thomas o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, yw awduron y papur.

AU8812