Gwarchod bioamrywiaeth

22 Mawrth 2012

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Dr Mike Christie, economegydd amgylcheddol sy'n gweithio yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth, wedi annog llunwyr barn i gynyddu eu hymdrech i warchod adnoddau naturiol gwerthfawr.

Bioamrywiaeth yw'r term gwyddonol a ddefnyddir ar gyfer yr amrywiaeth o fywyd sydd ar y Ddaear. Mae'n cynnwys pob math ar fywyd o forfilod i facteria ac yn cwmpasu amrywiaeth genetig a'r ecosystemau cymhleth y maent yn rhan ohoni.

Mae bioamrywiaeth o dan fygythiad mewn nifer o ardaloedd y byd, a’r llefydd gwaethaf yw’r gwledydd sy’n datblygu, ac mae pryder ynghylch colli bioamrywiaeth fyd-eang wedi dod i'r amlwg fel mater cyhoeddus pwysig.

Eglurodd Dr Christie, "Mae rhai o'r asesiadau rwyf wedi’u cynnal yn ddiweddar wedi bod o fanteision fforestydd glaw yn yr Ynys Solomon, ac o riffiau cwrel yn y Caribî. Roeddwn wedi gallu dangos y cyfraniad roedd bioamrywiaeth yn ei wneud er lles a bywoliaethau pobl, sydd wedi yn ei dro, annog llunwyr polisi lleol i wella eu hymdrechion cadwriaethol."

Ar raddfa fyd-eang, roedd Dr Christie yn awdur ar adroddiad ‘Economeg Ecosystemau a Bioamrywiaeth’ (TEEB) a oedd yn asesu costau colli bioamrywiaeth a dirywiad ecosystemau. Profodd yr astudiaeth yn hynod ddylanwadol ac yn allweddol wrth ddatblygu *Targedau Aichi 2011 y Confensiwn Amrywiaeth Biolegol.

Er mwyn helpu llywodraethau i weithredu'r targedau hyn, mae Dr Christie wedi bod yn helpu Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig i gynnal cyfres o weithdai adeiladol ar lefel uchel ar Ddulliau Prif-ffrydio Gwasanaeth Ecosystem i mewn i Ddatblygu. Hyd yma, mae’r gweithdai wedi cael eu mynychu gan ymchwilwyr o dros 60 o wledydd o bob rhan o Affrica, Asia, America Ladin a'r Caribî.

Ychwanegodd Dr Christie, "Mae'n amlwg bod bioamrywiaeth yn darparu'r sylfeini ar gyfer darparu’r gwasanaethau pwysig a ddibynwn arnynt, ond yn rhy aml, y cymrwn yn ganiataol. Mae ymagwedd ecosystemau at bolisi yn caniatáu inni fod yn glir ynghylch ein heffaith ar fioamrywiaeth a sut y gallwn elwa orau ohono. Yn ei dro, bydd hyn yn ein helpu i wneud penderfyniadau mwy gwybodus a sicrhau y llif o wasanaethau pwysig yn y dyfodol."

Prosiet gwerth £50 mil wedi’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol yw ei waith ymchwil diweddaraf. Drwy’r prosiect yma, fydd Dr Christie yn edrych ar sut orau i bontio'r bwlch rhwng y dystiolaeth wyddonol ar werthoedd natur a’r dulliau o weithredu penderfyniadau polisi.  Mynychwyd y cyfarfod cyntaf, a gynhaliwyd ddechrau mis Mawrth, gan 60 o academyddion a gwneuthurwyr polisi. Nôd y prosiect yn y pen draw yw i wella’r cyfuniad rhwng y ddealltwriaeth wyddonol o fioamrywiaeth a’r broses o wneud penderfyniadau.

AU7012