Llwyddiant cyhoeddi

Yr Athro M. Wynn Thomas, cadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru, yn cyflwyno'r wobr i Lynwen Rees Jones, cyfarwyddwr CAA.

Yr Athro M. Wynn Thomas, cadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru, yn cyflwyno'r wobr i Lynwen Rees Jones, cyfarwyddwr CAA.

20 Mawrth 2012

Roedd Canolfan Astudiaethau Addysg (CAA) y Brifysgol ym mhlith yr enillwyr a gyhoeddwyd yn noson Gwobrau’r Diwydiant Cyhoeddi gafodd ei chynnal yn Aberystwyth ar y 15fed o Fawrth.

Y gyfrol Patagonia, gan Sioned V. Hughes gipiodd gwobr y gwerthwr gorau yn yr adran llyfrau Cymraeg i blant i CAA.

Anrhydeddir gwaith cyhoeddwyr Cymru yn y seremoni am werthiant eu llyfrau yn ogystal â safon cynhyrchu a dylunio'r llyfrau. Cyflwynir gwobrau'r diwydiant bob dwy flynedd ac eleni roedd y seremoni'n cyd-fynd â dathliadau hanner can mlwyddiant Cyngor Llyfrau Cymru.

"Ein hamcan wrth gyflwyno'r gwobrau hyn yw anrhydeddu gwaith clodwiw'r cyhoeddwyr sy’n paratoi ystod o lyfrau ar gyfer y darllenwyr," meddai'r Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd y Cyngor Llyfrau.

"Mae'r Cyngor yn ymwybodol iawn o ymdrechion y cyhoeddwyr i gynnal y safonau uchaf wrth gyhoeddi deunydd apelgar ar gyfer plant ac oedolion. Mae'n braf, felly, cael y cyfle i ddathlu eu llwyddiant ar yr achlysur hwn."

Comisiynwyd y gwobrau yn arbennig eleni gan yr artist o Gaerdydd, Carwyn Evans a enillodd y Wobr Gelf Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2009.

"Mae'r cyhoeddwyr i gyd i'w llongyfarch yn fawr am eu gwaith," meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau. "Mae'r ffaith fod deuddeg o gyhoeddwyr wedi dod i'r brig yn yr amrywiol gategorïau yn arwydd o'r bywiogrwydd ym maes cyhoeddi yng Nghymru yn y ddwy iaith."

Mae CAA hefyd yn dathlu carreg filltir arbennig yn ei hanes eleni, sef deng mlynedd ar hugain o gyhoeddi ers ei sefydlu ym 1982.

AU8512