Traveller from an antique land

20 Mawrth 2012

Bydd Awdur Llyfr y Flwyddyn Cymru, Ned Thomas, yn mynychu Cynhadledd Flynyddol yr Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol i Uwchraddedigion a gynhelir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o’r 25ain tan y 27ain o Ebrill April.

Ef fydd un o’r prif siaradwyr yn y gynhadledd, gan roi sgwrs yn dwyn y teitl "Traveller from an antique land" a fydd yn edrych ar y Cymry (a lleiafrifoedd eraill), fel y mae eraill yn eu gweld ac fel y maent hwy yn gweld llefydd eraill.

Yn 2011, cafodd hunangofiant Ned, Bydoedd, a ysgrifennwyd yn y Gymraeg, ac sy’n cofnodi ei yrfa amrywiol fel awdur, newyddiadurwr, ysgolhaig a chyhoeddwr, ei enwi yn Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru.

Bu’n gweithio i bapurau newyddion y Times, yn golygu cylchgrawn chwarterol Llywodraeth Prydain yn yr iaith Rwsieg, Angliya, ef a sefydlodd a golygu’r cylchgrawn Planet-the Welsh Internationalist, bu’n cyfarwyddo Gwasg Prifysgol Cymru, ac yn dysgu llenyddiaeth ym Mhrifysgol Salamanca, Prifysgol Gwladwriaeth Mosco a Phrifysgol Aberystwyth.

Mae ef hefyd yw awdur astudiaethau ar George Orwell a Derek Walcott yn Saesneg, ac ar Waldo Williams yn Gymraeg. Bu ei gyfrol The Welsh Extremist: a Culture in Crisis  yn ddylanwadol yn ymgyrchoedd iaith Gymraeg y 1970au a’r 1980au a chwaraeodd ran amlwg ei hun yn yr ymgyrch am sianel deledu Gymraeg. 
                       
Ef ar hyn o bryd yw Llywydd Anrhydeddus Canolfan Mercator yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Mae’r Ganolfan yn rhedeg prosiectau ar gyfryngau mewn ieithoedd lleiafrifol, ar hybu Llenyddiaeth Gymraeg Dramor, a’r rhaglen Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau sy’n hyrwyddo cyfieithu a chyfnewid ar draws diwylliannau yn Ewrop a thu hwnt

Ei anerchiad ef fydd un o’r digwyddiadau sy’n rhan o Gynhadledd yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol i Uwchraddedigion 2012: "Are We There Yet? Remapping Literary Imagination".

Bydd y prif siaradwyr eraill eleni yn cynnwys Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, pennaeth adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Damian Walford Davies a chyfarwyddwraig Canolfan Llên Menywod a Diwylliant Llenyddol yr Adran Saesneg, Dr Sarah Prescott.

Dylai’r sawl sydd am ddod i’r gynhadledd gysylltu ag Ollie Bevington (odb09@aber.ac.uk) neu Ashley Hill (anh11@aber.ac.uk ). Am wybodaeth bellach, ewch i wefan yr adran: www.aber.ac.uk/en/english/.

Gwahoddir crynodebau 200-300 o eiriau ar gyfer papurau 15-20 munud gan ymchwilwyr sy’n dechrau ar eu gyrfa, myfyrwyr uwchraddedig ac israddedigion yn y drydedd flwyddyn sy’n gweithio ym meysydd astudiaethau llenyddol, ysgrifennu creadigol, damcaniaeth lenyddol, a disgyblaethau cysylltiedig. Gall y pynciau gynnwys y rhai a ganlyn, ond ni chewch eich cyfyngu iddynt:

 -Trechu ffiniau mewn barddoniaeth a rhyddiaith
-Teithiau llenyddol, ysgrifennu am deithiau
-Profiad y lleiafrif mewn cymdeithas
-Estroneiddio, cymathu
-Pan fo genres yn gwrthdaro
-Diwylliannau a llenydda ar y cyrion

Dyddiad Cau ar gyfer Crynodebau: 23 Mawrth 2012. Ffurflenni cofrestru i’w cyflwyno erbyn 10 Ebrill.

AU5512