Hwb i addysg cyfrwng Cymraeg

Chwith i’r Dde: Yr Athro Aled Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Hŷn, Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Dr Anwen Jones, Cadeirydd Cangen Prifysgol Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Chwith i’r Dde: Yr Athro Aled Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Hŷn, Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Dr Anwen Jones, Cadeirydd Cangen Prifysgol Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

20 Mawrth 2012

Cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth ei bod yn creu pum swydd ddarlithio cyfrwng Cymraeg newydd sydd wedi eu cyllido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cafodd y cyhoeddiad yn cael ei wneud ar ddydd Llun 19 Mawrth gan yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, mewn cyfarfod i lansio cangen y Brifysgol o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn cynllunio, cynnal a datblygu addysg ac ysgolheictod cyfrwng Cymraeg ym mhrifysgolion Cymru drwy weithgaredd y canghennau.

Mae’r swyddi newydd i’w gweld ar wefan Adnoddau Dynol Prifysgol Aberystwyth http://www.aber.ac.uk/cy/hr/jobs/vacancies-external/.

Maent ym meysydd Addysg, Amaeth, Daearyddiaeth, Mathemateg, ac Astudiaethau rhan-amser - cynllun amlddisgyblaethol drwy’r Gymraeg a fydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr rhan-amser astudio tuag at radd yn un o bynciau’r dyniaethau neu’r gwyddorau.

Mae’r bum ddarlithyddiaeth yn cael eu cyllido am gyfnod o bum mlynedd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae’r Brifysgol ym ymrwymo i’r swyddi hyn fel rhan o’i darpariaeth graidd.

Yn ogystal cyhoeddodd yr Athro McMahon fod tair ysgoloriaeth ôl-raddedig mewn Gwleidyddiaeth, Gwyddorau Gwledig a’r Gyfraith yn cael eu creu, sydd hefyd wedi eu cyllido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Eisoes yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol penodwyd chwe darlithydd gan Brifysgol Aberystwyth fel rhan o Gynllun Staffio Academaidd y Coleg. Y chwech yw Dr Huw Morgan (Ffiseg), Dr Rhys Dafydd Jones (Daearyddiaeth), Hefin Wyn Williams (Amaethyddiaeth), Sara Penrhyn Jones (Ffilm), Rhun Emlyn (Hanes Cymru) a Dr Huw Williams (Gwleidyddiaeth).

Dywedodd yr Athro Aled Gruffydd Jones, y Dirprwy Is-Ganghellor Hŷn ac un o Gyfarwyddwyr y Coleg; “Mae penodi ysgolheigion o’r radd flaenaf yn hwb sylweddol i ddarpariaeth Gymraeg yr adrannau maen nhw’n perthyn iddynt a’u proffiliau ymchwil, ac eisoes mae’r darlithwyr yn datblygu darpariaeth newydd ac yn trafod prosiectau cydweithio ag adrannau a sefydliadau eraill.

“Golyga hyn bod y dewis i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn cynyddu’n sylweddol, ac mae hynny, ynghyd â’r adnoddau gwych a roddir ar y Porth (http://www.porth.ac.uk/cy/), llwyfan e-ddysgu’r Coleg, yn sicrhau na fu amser gwell i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog.”

Yn ystod y lansiad datganodd yr Athro April McMahon a’r Athro Aled Jones eu cefnogaeth y Brifysgol i waith y gangen, gan bwysleisio pwysigrwydd y ddarpariaeth Gymraeg yn Strategaeth Academaidd ehangach y Brifysgol.

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, lleolir y gangen o dan adain Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, ac mae staff y Ganolfan yn cydweithio ag adrannau academaidd i ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg fel rhan o Strategaeth Cyfrwng Cymraeg y Brifysgol.

AU7612