Ar ben y Byd

14 Mawrth 2012

Mae Prifysgol Aberystwyth ymhlith y tri lle gorau yn y byd i fod yn fyfyriwr ac  mae ganddi’r lefel uchaf o foddhad myfyrwyr, yn ôl Baromedr Myfyrwyr Rhyngwladol 2012 sydd newydd gael ei gyhoeddi.

Saif Aberystwyth yn y 3ydd safle o blith 238 o sefydliadau Addysg Uwch ledled y byd ar gyfer yr elfennau 'lle da i fod ' a 'boddhad cyffredinol myfyrwyr'.

Y Baromedr Myfyrwyr Rhyngwladol yw'r arolwg blynyddol mwyaf o fyfyrwyr ac mae wedi casglu gwybodaeth oddi wrth fwy na 600,000 o fyfyrwyr ledled y byd ers ei sefydlu yn 2005. Mae'n cynnwys dros 500 o sefydliadau mewn 150 o wledydd ar 5 cyfandir.

Perfformiodd y Brifysgol yn arbennig o dda ym mhob agwedd o brofiad myfyriwr yr yr arolwg. O'r croeso cychwynnol ar eu penwythnos cyntaf, hyd at y cyfleusterau addysgu a dysgu a’r gefnogaeth academaidd, adroddodd myfyrwyr Aberystwyth fod ansawdd y profiad academaidd a ddarperir ar eu cyfer ymhlith y gorau.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Yn naturiol, rydym yn falch iawn fod y Baromedr Myfyrwyr Rhyngwladol wedi dangos bod gan y Brifysgol y lefel uchaf o foddhad myfyrwyr a’i bod ac yn cael ei hystyried yn un o'r tri lle gorau yn y byd i fod yn fyfyriwr. Mae hyn yn cadarnhau'r buddsoddiad sylweddol y mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud yn ansawdd yr adnoddau a'r cyfleusterau sydd ar gael i fyfyrwyr. "

"Mae'r Baromedr yn arolwg casglu gwybodaeth sy’n uchel ei barch ymysg myfyrwyr ar draws y byd. Dyma'r arolwg manylaf a mwyaf cynhwysfawr o’i fath, ac mae nifer y prifysgolion sy'n cymryd rhan ynddo wedi dyblu. Mae'n eithriadol o galonogol fod Aberystwyth wedi perfformio mor dda. "

"Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o arolygon sy'n gosod Aberystwyth ymhlith y prifysgolion gorau ar gyfer profiad y myfyriwr. Rydym yn buddsoddi dros £48 miliwn yn ein neuaddau preswyl a chyfleusterau addysgu er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn parhau i fwynhau. Gall ein myfyrwyr presennol, a’r rhai fydd yn ymuno â ni yn y dyfodol, fod yn sicr eu bod yn, ac yn mynd i fod, yn profi amgylchedd gorau i fyfyrwyr y gall y DU ei chynnig.”

AU6812