Ffoadur Kindertransport
13 Mawrth 2012
Ddydd Mercher 14 Mawrth 2012 am 4 o’r gloch y prynhawn ym Mhrifysgol Aberystwyth (Adeilad Hugh Owen A14) bydd William Dieneman yn adrodd stori ei fywyd mewn sgwrs ‘From Berlin to Aberystwyth: the life history of a former Kindertransportee’.
Ganwyd William yn Cottbus yn 1929 i deulu Iddewig ac roedd yn byw ym Merlin yn fachgen pan gipiwyd grym gan y Blaid Sosialaidd Genedlaethol. Ynghyd â’i chwaer Ursula, cafodd ei anfon i Brydain yn 1939 ar y Kindertransport, ac yntau’n naw oed.
Bydd Dr Andrea Hammel o Adran Ieithoedd Ewropeaidd Prifysgol Aberystwyth, arbenigwraig ar hanes a diwylliant ffoaduriaid Almaeneg eu hiaith a ddaeth i Brydain yn y 1930au a'r 40au, yn cyflwyno’r sgwrs ac yn rhoi trosolwg byr o hanes y Kindertransport.
Fel arfer mae'r term Kindertransport yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r 10,000 o blant ifanc o gefndir Iddewig yn bennaf, a ddaeth o’r Almaen, Awstria a’r Weriniaeth Tsiec, a chael lloches yn y Deyrnas Gyfunol rhwng Rhagfyr 1938 a Medi 1939.
Bydd William Dieneman yn siarad am yr heriau o addasu i fywyd ym Mhrydain, bywyd gyda nifer o deuluoedd maeth, ei addysg, a'i hyfforddiant mewn llyfrgellyddiaeth a ddaeth ag ef i Aberystwyth yn 1970 fel llyfrgellydd Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth.
'Rydym yn teimlo'n freintiedig iawn i gael rhywun fel William i siarad â ni. Fel bachgen ifanc yr oedd yn llygad-dyst i nifer o ddigwyddiadau nad oes modd ond darllen amdanynt mewn llyfrau erbyn heddiw', meddai Dr Hammel, sy'n dysgu modiwl israddedig ar Hanes a Diwylliant Ffoaduriaid o Natsïaeth sydd yn siarad Almaeneg.
Yn dilyn y sgwrs gyda William Dieneman, bydd dangosiad arbennig a derbyniad am 5.30 o'r arddangosfa ‘Double Exposure: Jewish Refugees from Austria in Britain’ yn Oriel y Caffi yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Mae'r arddangosfa hon yn cynnwys ffoaduriaid o Awstria a ymsefydlodd yn y Deyrnas Gyfunol, yn eu plith y feiolinydd Norbert Brainin, y ffotograffydd a dyn camera Wolf Suschitzky, yr athro dawns Stella Mann, a’r cyfansoddwr Joseph Horowitz.
Mae'r portreadau’n darlunio pob un wrth sgwrsio, a’u gweld drwy ffenestr camera fideo. Mae'r delweddau yn cael eu hategu gan negeseuon byr a meddyliau a fynegir yn y cyfweliad. Mae'r rhain yn cyffwrdd ar y themâu cyffredinol o oddefgarwch, ffoaduriaid, hanes, dynoliaeth, a hunaniaeth.
Gyda’r arddangosfa ffotograffig ceir ffilm sy'n dilyn bywydau’r dynion a’r menywod sy’n ymddangos yn y portreadau ac yn ystyried dylanwad diwylliant Prydain ac Awstria arnynt.
Cynhelir yr arddangosfa (a drefnwyd gan Andrea Hammel ac a guradwyd gan Bea Lewkowicz) yn Oriel Caffi Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth tan y 7fed o Ebrill 2012. Bydd y ffilm yn cael ei dangos yn y Blwch o’r 12fed tan y 19ef o Fawrth 2012.
Mae’r ddau ddigwyddiad yn agored i bob aelod o staff, myfyrwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol.
AU7412