O Dŷ'r Cyffredin i gyfrifiaduron
12 Mawrth 2012
Cyfnewidiodd Mark Williams AS ddeddfwriaeth am awtomateg wythnos diwethaf (dydd Gwener 9 Mawrth) pan dreuliodd y diwrnod gyda Dr Amanda Clare yn y Brifysgol fel rhan o gynllun paru unigryw sy’n cael ei redeg gan y Gymdeithas Frenhinol - academi genedlaethol wyddoniaeth y DU.
Roedd Dr Clare, darlithydd Cyfrifiadureg Gwyddorau yn y Brifysgol, wrth law drwy gydol y dydd i esbonio a dangos ymchwil sydd ar flaen y gad gan y Brifysgol.
Mynychodd Mark Williams ddarlith a draddodwyd gan Dr Clare i'r myfyrwyr am y swyddogaethau gwahanol sydd i wyddoniaeth a thechnoleg yn San Steffan, a pha mor bwysig yw hi fod gwyddonwyr ar gael i gynghori llunwyr polisi ar sail eu harbenigedd.
Ar ôl treulio wythnos eisoes yn y Senedd fel rhan o'r cynllun, darparodd hyn gipolwg werthfawr ar sut y mae polisi gwyddoniaeth yn cael ei ffurfio ac yr hyn mae AS yn ei wneud o ddydd i ddydd.
Esboniodd Dr Clare, "Roedd dysgu am y prosesau sy'n ymwneud â llunio polisi yn San Steffan, yn brofiad dadlennol i mi fel gwyddonydd. Mae ASau yn aml iawn yn gorfod delio â chwestiynau anodd ar ystod eang o bynciau yn y Senedd ac mae angen gwybodaeth o ansawdd da i'w helpu i wneud hyn. Rhywbeth arall wnaeth gryn argraff arna i oedd pa mor agored oedd Tŷ'r Senedd i'r cyhoedd; caniateir mynediad i ddadleuon, adroddiadau a chyfarfodydd. "
Ychwanegodd Mark Williams AS "Mae'r diwrnod wedi rhoddi cyfle gwych imi werthfawrogi a deall y gwaith cyffrous sy'n cael ei wneud yn y Brifysgol a'r rôl bwysig y mae gwyddoniaeth a gwyddonwyr yn chwarae."
Mae cynllun paru y Gymdeithas Frenhinol AS-Gwyddonydd yn anelu at adeiladu pontydd rhwng seneddwyr a rhai o'r gwyddonwyr gorau yn y DU. Mae'n gyfle i ASau i ddod yn fwy gwybodus mewn materion gwyddonol ac i wyddonwyr ddeall sut y gallant ddylanwadu ar bolisi gwyddoniaeth. Mae dros 180 o barau o wyddonwyr ac ASau wedi cymryd rhan yn y cynllun ers ei lansio yn 2001.
AU5412