Myfyrwyr Aberystwyth yn Brolio yn y Senedd
06 Mawrth 2012
Mi oedd tîm o dri myfyriwr o Ysgol Rheolaeth a Busnes y Brifysgol yn ail mewn digwyddiad Brolio fis diwethaf, her genedlaethol a osodir gan y Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM) a Syniadau Mawr Cymru.
Roedd Alexandra Gencheva, Alex Tilvar a Lazar Lulchev, sydd yn fyfyrwyr Marchnata yn y drydedd flwyddyn wedi datblygu cynllun codi ymwybyddiaeth ar gyfer Syniadau Mawr Cymru, dan arweiniad y Llywodraeth sydd yn anelu i ysbrydoli pobl ifanc i ddechrau eu busnesau eu hunain.
Fe welodd y Brolio 15 o dimau i gyd o Brifysgolion ledled Cymru - ac roedd tri ohonynt o Aberystwyth. Fe gyflwynodd pob tîm eu syniadau yn ystod y dydd ac yn hwyrach, cafodd dri ohonynt eu dewis ar gyfer y rhestr fer a'u gwahodd i gyflwyno o flaen panel o arbenigwyr yn y Senedd mewn digwyddiad gyda'r nos.
Cafodd y myfyrwyr brîff manwl a gofynnwyd iddynt ystyried cyllidebau, negeseuon ac offer marchnata yn eu cyflwyniadau, i roi dealltwriaeth go iawn iddynt o sefyllfa busnes.
Eglurodd Alexandra Gencheva, "Roedd y Brolio yn gyfle gwych i roi'r sgiliau hynny yr ydym wedi dysgu i'r prawf a gobeithio, bydd yn gam tuag at gael swydd yn y diwydiant marchnata. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi mynd mor bell ac wedi cael y cyfle i fynd drwy i’r rownd derfynol. "
Ychwanegodd Nicholas Perdikis, Cyfarwyddwr yr Ysgol Rheolaeth a Busnes, "Fe wnaeth y tîm yn eithriadol o dda i gyrraedd y rownd derfynol. Mae'r digwyddiad hwn wedi’i greu i roi cyfle i fyfyrwyr marchnata i ddefnyddio eu sgiliau mewn cyd-destun busnes go iawn, a fydd yn rhoi profiad amhrisiadwy iddynt wrth fynd i mewn i farchnad waith cystadleuol. "
Roedd y panel o feirniaid yn cynnwys James Taylor, entrepreneur ifanc a sylfaenydd SuperStars, Roger Pride, Rheolwr Gyfarwyddwr Cardiff & Co a Jade Bourke, Rheolwr Marchnata yn DS Smith Recycling ac enillydd Marchnatwr Newydd yn y Canmol 2011: Gwobrau Marchnata Cymru.
Roedd yr ymgyrch gan y Tîm Marchnata Creadigol ag Ysbrydoledig yn anelu at ddenu myfyrwyr mewn ysgolion uwchradd, prifysgolion, oedolion ifanc sydd newydd adael y system addysgol ac yn ddi-waith neu'n rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEETs).
Fe gyflwynodd y tîm eu hymgyrch i’r neges "Credwch yn eich Stori ... Mae'n Dechrau Nawr!" a gafodd ei gyfleu drwy bosteri. Defnyddiodd y poster ddyluniadau cartwnau a oedd yn hwyl ac yn boblogaidd gyda'r gynulleidfa o fewn cwestiwn. Elfen allweddol o'r ymgyrch a wnaeth cryn argraff ar y beirniaid, oedd y defnydd arloesol o gyfryngau cymdeithasol a dyfeisiau Bluetooth. Cafodd yr ymgyrch ei gostio'n ofalus gyda mesurau penodol.
Fe siaradodd Alun Davies AC, Dirprwy Weinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd, yn y digwyddiad. Ychwanegodd: "Roedd yn bleser i fynychu Brolio ac i gyflwyno'r gwobrau. Fe wnes i fwynhau gwrando ar y cyflwyniadau ac yn falch iawn o glywed syniadau'r bobl ifanc a gymerodd rhan. Roedd y digwyddiad yn gyfle delfrydol i bobl ifanc i rannu eu doniau a syniadau ar gyfer yr ymgyrch Syniadau Mawr Cymru. "
Cyflwynwyd tystysgrifau i’r timau a gymerodd rhan, tra bod y myfyrwyr a enillodd o Brifysgol Caerdydd yn derbyn statws Aelodaeth Broffesiynol CIM am 12 mis.
AU4612